Cymuned yn Nodi Ail-lansio Colonâd Hanesyddol Llandudno

Mae'r Colonâd wedi bod yn nodwedd amlwg o bromenâd Llandudno ers y 1930au
Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o groesawu trigolion, ymwelwyr a sefydliadau lleol i ddathlu ail-lansio Colonâd Llandudno ddydd Gwener 20 Mawrth, yn dilyn rhaglen o waith adfer a gefnogwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Chronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd y digwyddiad rhwng 4pm a 6pm ar y promenâd, lle ymgasglodd pawb a oedd yn bresennol i nodi'r gwaith sydd wedi’i wneud yn rhan o'r prosiect a dyfodol newydd y tirnod glan y môr poblogaidd hwn. Nodwyd yr achlysur gan seremoni a oedd yn cynnwys torri’r rhuban, a gwahoddedigion.
Drwy gydol y digwyddiad, cafodd y gwesteion gyfle i fwynhau perfformiadau a gweithgareddau a ddarparwyd gan grwpiau lleol, yn cynnwys cerddoriaeth gan Fand Swing Llandudno, arddangosiadau celf gan David Sharp, a dawns gan Ysgol Ddawns Linzi Grace. Roedd gweithgareddau i blant a gemau yn yr ardd yn cynnig adloniant hamddenol i deuluoedd, ac yn helpu i greu awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar.
Cymerodd nifer o sefydliadau lleol ran hefyd drwy stondinau ac arddangosfeydd, gan gynnwys Llwybr Bwyd Môr Cymru Prifysgol Bangor, Llwybr Arfordir Cymru, Amgueddfa’r Home Front, arddangosfa beiciau modur o’r 1930au, ac Amgueddfa Llandudno.
Roedd ymwelwyr hefyd yn gallu gweld detholiad o ffotograffau hanesyddol o'r Colonâd drwy'r degawdau. Dewisodd rhai gwesteion gymryd rhan yn thema dillad smart y 1930au (a oedd yn ddewisol), er mwyn adlewyrchu'r cyfnod y cafodd y Colonâd ei adeiladu gyntaf.
Mae'r Colonâd wedi bod yn nodwedd amlwg o bromenâd Llandudno ers y 1930au. Canolbwyntiodd y gwaith adfer ar gadw ei gymeriad hanesyddol, gwella diogelwch, a sicrhau y gall trigolion ac ymwelwyr barhau i fwynhau'r strwythur am lawer o flynyddoedd. Gweithiodd y Cyngor yn agos â Mostyn Estates drwy gydol y prosiect i gynnal uniondeb y dyluniad gwreiddiol.
Yn ogystal â'r gwaith sydd wedi'i gwblhau hyd yn hyn, bydd paneli dehongli a seddi yn cael eu gosod maes o law. Mae cyllid hefyd yn cael ei geisio i ailosod colofnau goleuadau ar y dec uchaf, ac mae cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig yn mynd trwy'r broses gynllunio ar hyn o bryd.
Dywedodd y Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu: “Mae’r Colonâd yn rhan bwysig o dreftadaeth a hunaniaeth Llandudno, a dwi’n falch o’i weld yn cael ei adfer i’w hen ogoniant. Mae’r gwelliannau hyn yn sicrhau bod y trysor hwn yn cael ei fwynhau gan bobl am flynyddoedd i ddod, a dwi’n edrych ymlaen at ddathlu gyda’r gymuned.
“Diolch i’r perfformwyr, y gwirfoddolwyr, y partneriaid, a phawb a ddaeth i gefnogi’r dathliad, yn ogystal â phob un a gyfrannodd at lwyddiant y prosiect.”
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw gwella balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus
Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru: Bwriad cronfa’r Pethau Pwysig yw galluogi gwelliannau bach a sylfaenol i isadeiledd ymwelwyr hanfodol mewn cyrchfannau twristiaeth strategol ar draws Cymru, gan sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiadau cadarnhaol a chofiadwy ym mhob agwedd ar eu harhosiad.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://diwydiant.croeso.cymru/cy/cefnogi-chi/gwybodaeth-chyngor-gyllid-ar-gael-ar-gyfer-busnesau-twristiaeth
Wedi ei bostio ar 23/03/2026