Aelod Cabinet Conwy yn cefnogi ymgyrch "Gwobrau Ailgylchu"

Rhwng mis Hydref 2024 a mis Medi 2025, casglodd Bryson 7125 tunnell o wastraff gardd
Pleidleisiwch dros eich hoff elusen yn ymgyrch “Gwobrau Ailgylchu” Bryson
Gallwch nawr bleidleisio ar gyfer ymgyrch arloesol “Gwobrau Ailgylchu” Bryson Recycling, sy’n helpu preswylwyr lleol i gefnogi achosion da drwy ailgylchu eu gwastraff gardd.
Fel rhan o’r cynllun blynyddol hwn, mae’r fenter gymdeithasol leol Bryson Recycling yn cyfrannu £1 at elusen am bob tunnell o wastraff gardd a gesglir drwy’r gwasanaeth bin brown mae’n ei ddarparu ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Rhwng mis Hydref 2024 a mis Medi 2025, casglodd Bryson 7125 tunnell o wastraff gardd, felly bydd yn cyfrannu £7125 at elusen.
Mae tair elusen leol ar y rhestr fer, ac mae Bryson yn gwahodd preswylwyr i bleidleisio dros yr achos da o’u dewis. Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng y tri sefydliad, yn seiliedig ar nifer y pleidleisiau y byddant yn eu derbyn.
Yr elusennau ar y rhestr fer yw:
- Neuadd Goffa Cyffordd Llandudno – canolfan gymunedol boblogaidd sy’n codi arian ar hyn o bryd i drwsio’r to.
- Ysgol Porth y Felin, Conwy – i gefnogi prosiect Big Bocs Bwyd yr ysgol, sy’n helpu teuluoedd i gael gafael ar fwyd iach, fforddiadwy.
- Neuadd Goffa Talhaiarn, Llanfair TH – canolfan gymunedol groesawgar sydd wedi cynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau am dros 100 mlynedd ac sy’n bwriadu parhau i wneud hynny am flynyddoedd lawer i ddod.
Dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley Aelod Cabinet y Gymdogaeth a’r Amgylchedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, "Mae ailgylchu gwastraff gardd nid yn unig yn helpu’r amgylchedd mae hefyd yn rhoi cyfle i breswylwyr wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn lleol. Mae’r ymgyrch hon yn ffordd wych o gefnogi achosion cymunedol gwerth chweil, ac rydyn ni’n annog pawb i gymryd rhan a phleidleisio dros eu hoff elusen."
Dywedodd Gerwyn Williams, Rheolwr Cynorthwyol Gweithrediadau Bryson Recycling, "Mae Bryson Recycling yn angerddol dros amddiffyn yr amgylchedd a chefnogi’r cymunedau lleol rydyn ni’n eu gwasanaethu. Mae ein hymgyrch ‘Gwobrau Ailgylchu’ yn ein galluogi i wneud y ddau beth hyn. Mae pob elusen ar y rhestr fer yn gwneud gwaith gwych, ac rydyn ni’n awyddus i weld cynifer o breswylwyr â phosibl yn cymryd rhan ac yn pleidleisio dros yr achos maen nhw am ei gefnogi."
PLEIDLEISIWCH NAWR dros yr achos yr hoffech ei gefnogi fwyaf. Rhaid pleidleisio erbyn 9 Tachwedd 2025.
www.brysonrecycling.org
Wedi ei bostio ar 31/10/2025