Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Conwy's Draft Local Housing Market Assessment (LHMA)

Asesiad Ddrafft o Farchnad Dai Leol Conwy


Summary (optional)
start content

Asesiad Ddrafft o Farchnad Dai Leol Conwy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gofyn i’r cyhoedd edrych ar yr Asesiad Ddrafft o’r Farchnad Dai Leol a rhoi adborth. 

Mae’r Asesiad Ddrafft o’r Farchnad Dai Leol yn dod ag ystod o wybodaeth ynghyd i roi darlun o’r anghenion am wahanol fathau o lety yn y Sir.

Mae’n rhoi manylion am faint aelwydydd, y mathau o lety sydd eu hangen ac incwm y cartref, yn ogystal â gwybodaeth am y farchnad dai, tai fforddiadwy, a thai gwag yn y Sir. 

Mae’r holl wybodaeth a thystiolaeth yn yr Asesiad Ddrafft o’r Farchnad Dai Leol yn cael ei ddefnyddio i lywio dogfennau eraill, yn cynnwys Cynllun Datblygu Lleol a Strategaeth Tai Lleol y Cyngor. Mae’n helpu’r Cyngor a’i bartneriaid i wneud penderfyniadau gwybodus am ddarpariaeth tai yn y dyfodol i wneud yn siŵr bod cymysgedd priodol o dai ar gael.

Edrychwch ar yr Asesiad Ddrafft o’r Farchnad Dai Leol a rhowch eich adborth drwy gwblhau’r cwestiynau ar-lein.

Bydd yr arolwg yn agored tan 11 Mawrth 2024 ar gyfer sylwadau. 

Cynhelir rhywfaint o sesiynau galw heibio hefyd i roi adborth a chwrdd â staff.

  • Dydd Mercher 31 Ionawr 2024, 10am – 12pm yn Llyfrgell Llanrwst, Glasdir, Plas Yn Dre, Llanrwst, LL26 0DF
  • Dydd Llun 5 Chwefror 2024, 9:30am – 12:30pm yn Swyddfeydd y Cyngor Bodlondeb, Ffordd Bangor, Conwy, LL32 8DU
  • Dydd Mawrth 13 Chwefror 2024, 3:00pm – 6:00pm yng Nghoed Pella, Ffordd Conwy, Bae Colwyn, LL29 7AZ

Ymgynghoriad ar yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

Wedi ei bostio ar 29/01/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content