Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Rhaglen Llysgenhadon Twristiaeth Conwy'n mynd o nerth i nerth

Rhaglen Llysgenhadon Twristiaeth Conwy'n mynd o nerth i nerth


Summary (optional)
start content

Rhaglen Llysgenhadon Twristiaeth Conwy'n mynd o nerth i nerth

Ambassador Prog

Rhaglen Llysgenhadon Twristiaeth Conwy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno cais llwyddiannus am £34,000 o gyllid Ffyniant Gyffredin i wella profiadau ymwelwyr drwy ddatblygu Rhaglen Llysgenhadon Twristiaeth Conwy ymhellach.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys digwyddiadau rhwydweithio ar gyfer Llysgenhadon Twristiaeth Conwy er mwyn iddyn nhw ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth a dysgu am y datblygiadau diweddaraf yng Nghonwy, ac ymweld â busnesau twristiaeth yn ein trefi a’n pentrefi.

Meddai Melissa, Llysgennad Twristiaeth Conwy: “Rydw i’n edrych ymlaen at y Sgwrs a’r Daith Tan y Mynydd ar 19 Awst. Dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer am bysgota â phlu ond dwi’n edrych ymlaen at ddysgu am ei hanes a’i darddiad a chael cynnig arno! Dyna ‘di’r peth da am y Rhaglen Llysgenhadon – mae’n agor drysau i brofiadau newydd.”

Mae rhaglen rwydweithio lawn Llysgenhadon Twristiaeth Conwy ar gael yma. Cofiwch, er mwyn mynd i’r sesiynau yma mae’n rhaid i chi gyflawni Lefel Efydd Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Conwy neu uwch. Fodd bynnag, mae rhai digwyddiadau ar gyfer Llysgenhadon Twristiaeth Lefel Aur yn unig.

Y nod hefyd ydi recriwtio o leiaf 5 busnes newydd i ymuno â’r Rhaglen Llysgenhadon Twristiaeth fel Llysgenhadon Busnes i addysgu gweithwyr am y cynnig i ymwelwyr er mwyn iddyn nhw ddarparu’r profiadau gorau posibl i ymwelwyr a gwasanaeth cwsmer heb ei ail.

Meddai Tansy Rogerson, Cadeirydd Partneriaeth Cyrchfan Conwy: “Un o’r prosiectau mwyaf cyffrous ydi Cwrs Tywys Twristiaid Bathodyn Gwyn Tref Llandudno, sy’n darparu hyfforddiant, cefnogaeth ac adnoddau i hyd at 12 o bobl ddod yn Dywyswyr Twristiaid Swyddogol yn y dref.”

Yn ogystal â diweddaru llwyfan gwe’r llysgenhadon i ddiwallu anghenion diweddaraf pobl, mae cynlluniau hefyd i gynnwys modiwl newydd sbon ar hygyrchedd i sicrhau bod y llysgenhadon yn meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf ar yr hyn sydd gennym ni yma yn Sir Conwy i groesawu pawb.

Meddai’r Cyng. Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy: “Dw i’n falch iawn ein bod ni wedi cael cyllid i barhau â gwaith llwyddiannus Rhaglen Llysgenhadon Twristiaeth Conwy. Mae gwella profiadau ymwelwyr yn un o’n nodau dan Gynllun Cyrchfan Conwy.”

I ddysgu mwy am fod yn Llysgennad Twristiaeth Conwy, ewch i: Llysgennad Twristiaeth Conwy - Visit Conwy

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan dîm twristiaeth Dewch i Gonwy dilynwch linked in

Wedi ei bostio ar 13/08/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content