Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Gohirio Penderfyniad ar Ardoll Ymwelwyr

Ardoll Ymwelwyr
Cyfarfu Cyngor Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 24 Medi 2026 i ystyried y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn y sir.
Cefnogodd yr Aelodau argymhelliad i ohirio unrhyw benderfyniad ar gyflwyno Ardoll Ymwelwyr nes bod rhagor o dystiolaeth a phrofiad ymarferol ar gael, er mwyn gallu cynnal asesiad gwybodus a chynhwysfawr o’i heffeithiau a’i manteision posibl.
Rhwng 20 Mai a 17 Gorffennaf 2026, cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn trigolion, ymwelwyr a busnesau ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn Sir Conwy. Amlygodd yr ymatebion bryder sylweddol ynghylch y diffyg data a thystiolaeth gadarn sydd ar gael ar hyn o bryd i asesu goblygiadau posibl cyflwyno’r ardoll yn llawn.
Roedd pryderon eraill yn canolbwyntio ar effaith economaidd bosibl cyflwyno Ardoll Ymwelwyr a gallu Conwy i barhau’n gystadleuol fel cyrchfan, gan fod canfyddiad y gallai’r ardoll arwain at lai o archebion, arosiadau byrrach a gostyngiad yng ngwariant ymwelwyr. Roedd amseriad posibl cyflwyno Ardoll Ymwelwyr hefyd yn destun pryder, gan fod yr amodau economaidd a busnes presennol eisoes yn rhoi pwysau sylweddol ar fusnesau lleol a’r sector twristiaeth ehangach.
Yng ngoleuni’r adborth hwn, argymhellodd yr adroddiad y dylid gohirio penderfyniad nes bod modd casglu tystiolaeth fwy cynhwysfawr. Bydd y dull hwn hefyd yn galluogi’r Cyngor i fonitro ac asesu’r modd y caiff Ardollau Ymwelwyr eu cyflwyno mewn rhannau eraill o Gymru, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr am sut mae cynlluniau o’r fath yn gweithio’n ymarferol a pha mor effeithiol ydynt o ran cyflawni’r canlyniadau a fwriadwyd.
Cafodd yr argymhelliad ei gymeradwyo’n flaenorol gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle ar 9 Medi 2026, cyn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ar 24 Medi 2026.
Dywedodd y Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu:
“Mae twristiaeth yn chwarae rhan hollbwysig yn economi Conwy, ac mae’n rhaid i unrhyw benderfyniad ynghylch cyflwyno Ardoll Ymwelwyr fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a dealltwriaeth glir o’r effeithiau posibl ar drigolion, ymwelwyr a busnesau.
“Rydym wedi gwrando’n ofalus ar y safbwyntiau a rannwyd drwy’r ymgynghoriad, ac un o’r negeseuon cryfaf oedd yr angen am ragor o dystiolaeth cyn gwneud penderfyniad. Mae’r argymhelliad i ohirio penderfyniad yn adlewyrchu’r adborth hwnnw ac yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu clywed fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau.
“Drwy gymryd yr amser i gasglu rhagor o dystiolaeth a dysgu o brofiadau awdurdodau lleol eraill ledled Cymru, gallwn sicrhau bod unrhyw benderfyniad yn y dyfodol yn un gwybodus a chytbwys, ac er budd gorau Sir Conwy.”
Wedi ei bostio ar 24/09/2026