Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn ennill Gwobr Arian genedlaethol am ragoriaeth yn y sector cyflogadwyedd

Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn ennill Gwobr Arian genedlaethol am ragoriaeth yn y sector cyflogadwyedd


Summary (optional)
start content

Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn ennill Gwobr Arian genedlaethol am ragoriaeth yn y sector cyflogadwyedd

Conwy Employment Hub IEP Silver Award

Tîm Canolbwynt Cyflogaeth Conwy a Gwobr Arian ar gyfer Rhagoriaeth Broffesiynol gan yr Institute of Employability Professionals (IEP)

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy wedi ennill Gwobr Arian ar gyfer Rhagoriaeth Broffesiynol gan yr Institute of Employability Professionals (IEP) i gydnabod ei ymrwymiad anhygoel i ddatblygiad proffesiynol, dysgu parhaus a rhagoriaeth yn y sector cyflogadwyedd.

Mae’r canolbwynt yn darparu amrywiaeth o raglenni cyflogadwyedd a sgiliau i gefnogi preswylwyr Conwy i wella ei sgiliau a chael gwaith ystyrlon a chynaliadwy. Yn 2024-2025, ymunodd 345 o breswylwyr â rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru – cafodd 174 gefnogaeth i gael gwaith, dysgodd 260 sgiliau newydd a manteisiodd 182 o bobl ifanc ar y prosiect Cyflogadwyedd Pobl Ifanc.

Gyda thîm o fentoriaid ymroddedig sy’n cynnig cefnogaeth un-i-un wedi’i phersonoli, mae’r Canolbwynt yn hyrwyddo diwylliant cryf o welliant parhaus. Mae’r Wobr Arian hefyd yn cydnabod ei ymrwymiad i staff, sy’n ymgysylltu’n rheolaidd â chyfleoedd datblygu proffesiynol, yn ennill cymwysterau ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau a rhwydweithiau cyflogadwyedd cenedlaethol.

Caiff y canolbwynt ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Meddai Dr Lowri Brown, Pennaeth Gwasanaethau Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:  “Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth wych o ymrwymiad ein tîm bob dydd – i’r bobl rydym ni’n eu cefnogi ar draws Cymru ac i’w datblygiad proffesiynol parhaus eu hunain. Rydym ni’n falch o weld ein mentoriaid yn buddsoddi yn eu twf eu hunain, er mwyn iddyn nhw ddarparu'r gefnogaeth orau posib’ i’n cymuned.”

Scott Parkin FIEP, Prif Weithredwr Grŵp, IEP: “Mae’r Wobr Arian ar gyfer Rhagoriaeth Broffesiynol yn cydnabod sefydliadau sy’n cefnogi diwylliant o ddysgu, datblygiad a rhagoriaeth yn y sector cyflogadwyedd. Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy wedi dangos ymrwymiad clir i rymuso staff ac, yn eu tro, y bobl a gefnogir ganddynt y gymuned.”

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn darparu rhaglen gyflogadwyedd Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru ac wedi sicrhau cyllid ychwanegol gan ffrydiau eraill er mwyn gallu cefnogi holl breswylwyr Conwy sy’n 16 oed a hŷn i ganfod cyflogaeth ystyrlon a chynaliadwy. Ewch i https://www.conwy.gov.uk/canolbwyntcyflogaethconwy i gael mwy o wybodaeth am Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy.

 

Wedi ei bostio ar 03/10/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content