Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Conwy'n cefnogi 'Cymru sy'n Falch o'r Mislif'

Conwy'n cefnogi 'Cymru sy'n Falch o'r Mislif'


Summary (optional)
start content

Conwy'n cefnogi 'Cymru sy'n Falch o'r Mislif'

period-proud-crop

Cymru sy’n Falch o’r Mislif

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o gefnogi Cymru sy’n Falch o’r Mislif, ymrwymiad i drechu tlodi mislif.

Mae Conwy sy’n Falch o’r Mislif yn sicrhau nad yw unrhyw un yn ein cymunedau’n wynebu stigma, caledi na rhwystrau i addysg, gwaith neu les oherwydd eu mislif.

Fel rhan o strategaeth Cymru sy’n Falch o’r Mislif gan Lywodraeth Cymru, mae’r fenter yn darparu cynnyrch mislif cynhwysol, hygyrch ac am ddim ar gyfer unrhyw un sydd eu hangen, heb gwestiynau na beirniadaeth.

Mae cynnyrch mislif am ddim ar gael mewn ystod o adeiladau’r cyngor, gan gynnwys ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau cymunedol, canolfannau teulu, a swyddfeydd Coed Pella.

Y nod yw sicrhau bod mynediad yn syml a chynnil ar gyfer pobl ifanc, teuluoedd a’r rhai ar incwm isel.

Dywedodd y Cyng. Hannah Fleet, Aelod Cabinet Gwasanaethau Oedolion Integredig ac Adnoddau Dynol Conwy: “Rydym eisiau i bawb yng Nghonwy deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn hyderus wrth ymdrin â’u hiechyd mislifol.  Ni ddylai unrhyw un fethu addysg, gwaith, chwaraeon neu fywyd bob dydd oherwydd nad ydynt yn gallu cael mynediad at gynnyrch sylfaenol. 

“Mae ein hymrwymiad yn mynd y tu hwnt i ddarparu cynnyrch am ddim, mae’n annog sgyrsiau cadarnhaol am y mislif, herio camsyniadau, a grymuso pobl i geisio cefnogaeth. 

“Mae Conwy sy’n Falch o’r Mislif yn ymwneud ag urddas, cynhwysiant a diddymu stigma am byth”.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Social-Care-and-Wellbeing/Healthy-living/Period-Proud-Conwy.aspx 
https://www.llyw.cymru/cymru-syn-falch-or-mislif

Wedi ei bostio ar 15/05/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content