Twnnel Conwy: Neges i gwmnïau cludiant

Llun: Traffig Cymru
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynghori cwmnïau cludiant a gyrwyr llwythi trwm i osgoi Twnnel Conwy oherwydd y llif ddwyffordd ar y lôn i gyfeiriad y Dwyrain.
Mae’r lôn i gyfeiriad y Gorllewin yn parhau i fod ar gau yn dilyn y tân yno ddoe, ac mae arolygiadau manwl ac asesiadau diogelwch ar y gweill.
Mae’r llif ddwyffordd ar y lôn i gyfeiriad y Dwyrain yn caniatáu un lôn o draffig i’r ddau gyfeiriad – sy’n golygu cyfyngiadau o 3.2 medr.
Mae arwyddion wedi’u gosod gan NWMTRA ac mae’r arwyddion matrics ar hyd yr A55 yn dangos negeseuon ynglŷn â’r cyfyngiadau.
Mi allwn ni gadarnhau na fydd yr heddlu’n hebrwng unrhyw lwythi trwm dros y dyddiau nesaf, ac mae Heddlu Gogledd Cymru mewn cyswllt uniongyrchol efo’r cwmnïau cludiant.
Mae ardaloedd sy’n prysuro yn sgil y digwyddiad, megis Llanrwst, Betws y Coed a Bethesda yn cael eu monitro gan swyddogion o Uned Troseddau Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru, er mwyn sicrhau bod y traffig yn llifo’n rhwydd. Gall unrhyw un nad yw’n cydymffurfio â’r cyngor hwn wynebu erlyniad.
Mi gynhaliwyd Gyfarfod Cydlynu Tactegol, wedi’i gadeirio gan Heddlu Gogledd Cymru, bore heddiw (ddydd Gwener) oedd yn cynnwys partneriaid o NWMTRA, y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a Stena Line.
Cyngor i yrwyr:
- Gadewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith
- Cynlluniwch eich taith a dilynwch y cyngor traffig diweddaraf
- Cadwch lygad ar Traffig Cymru a’i sianeli cyfryngau cymdeithasol yn aml ar gyfer diweddariadau byw
Er eich diogelwch, os ‘da chi’n sownd mewn tagfeydd:
- Arhoswch yn eich cerbyd, os ydy’n ddiogel i wneud hynny
- Trowch eich injan i ffwrdd os yn llonydd am gyfnodau hir
- Os ar gael, defnyddiwch eich system aerdymheru, neu agorwch ffenestri, er mwyn cadw’r tu fewn i’r cerbyd yn oerach
- Yfwch ddŵr – cariwch ddŵr os yn mynd ar deithiau hir
Unwaith eto, mi hoffwn ni ddiolch i bawb am eu hamynedd a’u cydweithrediad parhaus wrth i’r gwaith barhau er mwyn ailagor y twnnel ac ailsefydlu amodau traffig arferol.
Wedi ei bostio ar 20/06/2025