Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Digwyddiad Mawr- Twnnel Conwy ar gau

Digwyddiad Mawr- Twnnel Conwy ar gau


Summary (optional)
start content

Digwyddiad Mawr- Twnnel Conwy ar gau

Rhybudd

Twnnel Conwy ar gau

Mae ymateb aml-asiantaeth ar y gweill yn dilyn digwyddiad mawr yn ymwneud â thân cerbyd yn Nhwnnel Conwy ar yr A55 tua'r gorllewin. Adroddwyd am y tân am 13:48, ac mae'r gwasanaethau brys yn gweithio gyda'i gilydd yn y fan a'r lle.

Mae'r tân bellach dan reolaeth, a gallwn gadarnhau nad oes unrhyw farwolaethau wedi bod.

Oherwydd graddfa'r digwyddiad a'r angen am asesiadau diogelwch parhaus, mae Twnnel Conwy yn parhau i fod ar gau i'r ddau gyfeiriad a disgwylir iddo aros ar gau am gyfnod sylweddol o amser.  Bydd angen cynnal archwiliadau manwl i bennu maint unrhyw ddifrod cyn y gellir ailagor y twnnel yn ddiogel. 

Rydym yn ymwybodol o'r aflonyddwch difrifol sydd wedi'i achosi a bod traffig ar hyd yr A55 wedi cael ei effeithio fodd bynnag mae gwyriadau ar waith.

Mae ffyrdd yn ac o amgylch ardaloedd Bae Colwyn, Conwy, Llanrwst a Betws-y-Coed yn hynod brysur ar hyn o bryd – gan gynnwys pentrefi cyfagos, ac rydym yn annog modurwyr i ganiatáu digon o amser ar gyfer eu teithio.

Rydym yn annog y cyhoedd i:

  • Cadwch ffenestri a drysau ar gau os ydych chi'n byw gerllaw, fel rhagofal oherwydd mwg yn yr ardal.
  • Osgoi'r ardal, mae oedi sylweddol ar yr A55 a'r llwybrau cyfagos.
  •  Defnyddio'r llwybr dargyfeirio strategol               
  •  Edrychwch ar wefan Traffig Cymru i gael y diweddariadau diweddaraf am deithio a'r wybodaeth ddargyfeirio: https://traffic.wales.

Rydym yn diolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus wrth i asiantaethau weithio gyda'i gilydd i reoli'r sefyllfa yn ddiogel ac yn effeithiol.

Wedi ei bostio ar 19/06/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content