Cynghorwyr Conwy'n cytuno i ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch yr Ardoll Ymwelwyr

Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr
Mae cynghorwyr Conwy heddiw (14/05/26) wedi cytuno i ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch yr Ardoll Ymwelwyr.
Yn 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Cymeradwywyd y Bil gan Senedd Cymru ar 8 Gorffennaf 2025 a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 18 Medi 2025.
Mae'r Bil yn rhoi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr.
Mae cynnal ymgynghoriad yn rhan o'r broses a rhaid ei wneud cyn gofyn i gynghorwyr benderfynu a ddylid cyflwyno ardoll ai peidio.
Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor heddiw (14/05/26), rhoddodd y cynghorwyr ganiatâd i gynnal ymgynghoriad.
Dywedodd y Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu: “Rwy’n croesawu’r cyfle i ymgynghori ar yr Ardoll Ymwelwyr gyda budd-ddeiliaid, busnesau, trigolion a thwristiaid. Bydd ymatebion y rhai sy’n ymgysylltu â’r ymgynghoriad yn rhoi adborth gwerthfawr i’r aelodau etholedig gan alluogi aelodau i wneud penderfyniad democrataidd gwybodus ar y mater pwysig hwn.”
“Rydym yn gwybod bod cryn ddiddordeb yn yr Ardoll Ymwelwyr yng Nghonwy, a dyna pam rydym wedi cyflogi cwmni annibynnol i gynnal ymgynghoriad i fesur y farn leol.”
Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i gynghorwyr yn ddiweddarach eleni pan fyddant yn trafod a ddylid cyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn Sir Conwy.
Dolen at y rhaglen, adroddiad a’r gweddarllediad: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Y Cyngor Dydd Iau 14 Mai 2026, 10.00 am
Cwestiynau Cyffredin: Ardoll Ymwelwyr
Wedi ei bostio ar 14/05/2026