Straeon gofalwyr maeth yng Nghonwy, yn dangos y gall pawb gynnig rhywbeth a chefnogi plant mewn gofal yng Nghymru
Nod yr ymgyrch genedlaethol yw ysbrydoli pobl o bob cefndir i ystyried maethu gydag awdurdod lleol.
Mae Maethu Cymru Conwywedi ymuno â’r ymgyrch newydd, ‘Gall Pawb Gynnig Rhywbeth,’ gan ddefnyddio eu hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio’r nodweddion dynol bach ond arwyddocaol sydd gan bobl a all wneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal.
Mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.
Ar hyn o bryd mae dros 40 o ofalwyr maeth yr awdurdod lleol yng Nghonwy, ond mae angen o leiaf 20 o ofalwyr maeth ychwanegol i sicrhau bod plant yn gallu aros yn eu cymuned leol, pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw.
Mae Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, wedi mynd ati gyda’r nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth erbyn 2026, i ddarparu cartrefi diogel i bobl ifanc lleol.
Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl i ddatblygu’r ymgyrch – gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd, a’r rhai sy’n gadael gofal.
Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol a oedd yn atal darpar ofalwyr rhag ymholi:
• Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.
• Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
• Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.
Gyda’r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu awdurdodau lleol yn hyblyg, yn gynhwysol, ac yn dod â chyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol helaeth.
Mae Marie, ynghyd â’i gŵr Mark a’u dwy ferch yn eu harddegau Eleri a Catrin, wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol Maethu Cymru Conwy ers 2019. I gyd-fynd â deinameg y cartref ac oedran eu plant eu hunain, sydd bellach yn 15 ac 13, maent yn maethu tymor byr ac maent wedi dewis maethu plant iau, am y tro.
Mae Marie yn credu bod maethu yn cael effaith gadarnhaol ar bawb yn y cartref.
“Mae maethu yn cael effaith wirioneddol,” meddai Marie. “Mae wedi gwneud byd o les i’n plant ein hunain.
“Mae wedi llunio eu personoliaethau ac maen nhw wedi ennill cymaint o sgiliau bywyd gwerthfawr.
“Maen nhw hefyd wedi dod i ddeall y stigma o amgylch plant mewn gofal maeth a sut mae angen mynd i’r afael ag ef mewn cymdeithas.”
Daw gofalwyr maeth o bob math o wahanol gefndiroedd, ffyrdd o fyw ac unedau teuluol. Nid oes angen i chi gael eich plant eich hun i faethu. Yr hyn sydd bwysicaf yw'r sgiliau, yr olwg ar fywyd a'r profiad sydd gennych.
“Nid oes angen i chi fod yn berson neu deulu arbennig i faethu”, ychwanegodd Marie. “Y cyfan sydd ei angen yw peth amser, lle yn eich cartref a chalon fawr.
“Bydd pobl yn aml yn dweud pethau wrtha i fel ‘mae’r hyn rydych chi’n ei wneud yn anhygoel’ neu ‘mae’r plant hyn mor ffodus i’ch cael chi’. Ond nid wyf yn ei weld felly o gwbl.
“Rwy’n teimlo mai ni yw’r rhai ffodus i gael y plant hyn yn ein bywydau.
“I mi, mae maethu yn ymwneud ag aduno teuluoedd a byddaf bob amser yn gwneud yr hyn a allaf i wneud i hynny ddigwydd.”
Ar hyn o bryd, mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.
Gwnaeth y newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’.
Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw, ac mae’r angen am ofalwyr maeth awdurdodau lleol yn fwy nag erioed.
Dywedodd y Cyng Liz Roberts, Aelod Cabinet Plant, Teuluoedd a Diogelu:
“Mae ein gofalwyr maeth awdurdod lleol ym Maethu Cymru Conwy yn gwneud gwaith anhygoel, yn cefnogi plant trwy gynnig eu sgiliau, profiad, empathi a charedigrwydd i sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel.
“Ond mae angen recriwtio mwy o bobl anhygoel yng Nghonwy i sicrhau bod pob plentyn lleol sydd ei angen yn cael cartref croesawgar a’r gofalwr maeth cywir ar eu cyfer.
“Pan fyddwch chi’n maethu gyda’ch awdurdod llleol yng Nghonwymi fydd y tîm yn sicrhau bod gennych chi fynediad at wybodaeth a chefnogaeth leol ymroddedig, pecyn dysgu a datblygu gwych ac yn bwysicach fyth, gallwch chi helpu plant i aros yn eu cymuned leol eu hunain, yn agos at ffrindiau, eu hysgol a phopeth sy’n bwysig iddynt.
“Rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn i ddod â’u sgiliau a’u profiad i’r bwrdd a chysylltu â thîm Maethu Cymru Conwy.”
Mae’r ymgyrch yn fyw ar draws teledu, gwasanaethau ffrydio, radio, digidol, cyfryngau cymdeithasol, a chyda digwyddiadau amrywiol mewn cymunedau lleol ledled Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am faethu yng Nghonwy, neu i wneud ymholiad, ewch i: maethucymru.conwy.gov.uk
Wedi ei bostio ar 14/02/2024