Llyfrgelloedd Conwy yn cael eu dewis ar gyfer casgliad o lyfrau arbennig gan Netflix a'r Llyfrgell Brydeinig

Casgliad o lyfrau
Mae gwasanaeth llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn un o saith o awdurdodau llyfrgell yng Nghymru sydd wedi’u dewis ar gyfer menter ddarllen genedlaethol.
Mae Llyfrgell Bae Colwyn yn arddangos casgliad o lyfrau a ysbrydolwyd gan Netflix, ar ôl cael ei dewis i dderbyn casgliad arbennig o lyfrau wedi’i guradu gan Netflix a’r Llyfrgell Brydeinig, fel rhan o Flwyddyn Genedlaethol Darllen.
Mae Llyfrgelloedd Conwy yn un o ddim ond 100 o awdurdodau llyfrgell ledled y DU – a dim ond un o saith yng Nghymru – a ddewiswyd i dderbyn casgliad dethol o 20 llyfr sydd wedi ysbrydoli ffilmiau a chyfresi teledu poblogaidd ar Netflix.
Mae'r casgliad yn dod ag amrywiaeth o straeon poblogaidd a ffefrynnau llenyddol ynghyd, gan roi cyfle i ddarllenwyr ddarganfod y llyfrau sy’n sail i rai o'u hoff addasiadau sgrin, yn ogystal â dod o hyd i'w hoff lyfr nesaf efallai.
Mae’r teitlau’n cynnwys Heartstopper, Pride and Prejudice, The Thursday Murder Club, Matilda, Charlie and the Chocolate Factory, The Queen's Gambit, One Day ac One Hundred Years of Solitude, ochr yn ochr ag amryw o deitlau poblogaidd eraill.
Mae'r fenter yn rhan o Flwyddyn Genedlaethol Darllen, sy'n anelu at ysbrydoli mwy o bobl i gael pleser o ddarllen, archwilio straeon newydd a gwneud darllen yn rhan o fywyd bob dydd.
Gall defnyddwyr y llyfrgell bellach weld y straeon sydd wedi gwneud y daith o'r dudalen i'r sgrin.
Wedi ei bostio ar 17/11/2026