Conwy yn cadw ei Wobr Lefel Aur

Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn: Gwobr Lefel Aur
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cadw ei Wobr Lefel Aur o dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.
Mae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi darparu cefnogaeth eithriadol i gymuned y lluoedd arfog ac amddiffyn trwy fynd y tu hwnt i’r gofyn o ran addewidion Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Trwy elfen tair haen o efydd, arian ac aur, mae’r cynllun yn cydnabod y lefelau gwahanol o ymrwymiad a ddarperir gan gyflogwyr.
Dathlwyd y cyflawniad mewn digwyddiad yn Venue Cymru ar 28 Ebrill.
Bu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyflawni statws Lefel Aur am y tro cyntaf yn 2019, ac roedd angen ei ail-ddilysu bob pum mlynedd.
Y Cyng. Liz Roberts yw Cefnogwr y Lluoedd Arfog Conwy, yn arwain ar faterion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog o fewn y Cyngor.
Dywedodd, “Rwy’n hynod o falch ein bod wedi cadw’r Wobr Lefel Aur, mae’r cyflawniad hwn yn amlygu ein hymdrechion i greu amgylchedd sy’n cefnogi staff y lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd a staff Cadet.
Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad cadarn i gefnogi cymuned y lluoedd arfog trwy eirioli ar eu rhan, a gweithredu polisïau adnoddau dynol cadarnhaol sy’n blaenoriaethu eu hintegreiddio i’r gweithlu.
Byddwn ni, fel Cyngor, a’n partneriaid, yn parhau i sicrhau bod y rhai sydd wedi gwasanaethu ein gwlad yn cael y gefnogaeth a’r cyfleoedd maent yn eu haeddu.
Llun: Digwyddiad Lefel Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn [o’r chwith i’r dde]: Colonel Melanie E Prangnell MBE, Rhun ap Gareth, Prif Weithredwr; and y Cyng. Sue Shotter, Cadeirydd y Cyngor.
Cyfamod y Lluoedd Arfog: Bu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog am y tro cyntaf yn 2013. Bu i Gonwy ail-gadarnhau ei ymrwymiad i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog trwy ail-arwyddo’r Cyfamod yn 2024. Nod y Cyfamod Cymunedol yw annog cymunedau lleol i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hardal; hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar gymuned y lluoedd arfog ymhlith y cyhoedd a chydnabod a chofio'r aberth a wnaed. Mwy o wybodaeth am Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog: Ynglŷn â - Cyfamod y Lluoedd Arfog
Wedi ei bostio ar 28/04/2025