Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Conwy'n llofnodi Siarter Twf i gefnogi'r Gymraeg yn y gweithle

Conwy'n llofnodi Siarter Twf i gefnogi'r Gymraeg yn y gweithle


Summary (optional)
start content

Conwy'n llofnodi Siarter Twf i gefnogi'r Gymraeg yn y gweithle

Conwy signs the Twf Charter

Conwy’n llofnodi Siarter Twf

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi llofnodi Siarter Twf TUC Cymru - Siarter y Gymraeg yn y Gwaith.

Mae’r Siarter Twf yn dangos ymrwymiad y Cyngor i weithio’n agos gydag undebau llafur a’u haelodau a phob gweithiwr i ddarparu gweithlu dwyieithog cynhwysol ac annog twf o ran defnyddio’r Gymraeg ar draws ei weithlu.

Cafodd y Siarter ei llofnodi mewn digwyddiad arbennig yn Siambr y Cyngor ddoe (16/07/26) gan Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yng nghwmni cynrychiolwyr o undebau’r TUC, Unison, GMB ac Unite.

Mae’r Siarter yn darparu fframwaith ymarferol i helpu i greu gweithleoedd dwyieithog cynhwysol lle caiff pawb eu trin yn deg a chael cyfle i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg.

Mae’r Siarter wedi’i chreu o amgylch pedair egwyddor graidd - twf a hawliau’r Gymraeg, cynhwysiant a chyfiawnder ieithyddol, arweinyddiaeth ac atebolrwydd a dysgu parhaus a meithrin hyder. Mae’n cefnogi gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd ac mae’n annog sefydliadau i greu amgylcheddau lle gall yr iaith ffynnu.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Rwy’n falch iawn o lofnodi’r Siarter Twf ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae bod yn weithle dwyieithog cynhwysol yn cyfrannu at ein Nodau Corfforaethol, oherwydd mae’r Gymraeg yn rhan o bwy ydym ni a phopeth a wnawn. Ein hiaith ni yw hi ac mae’n perthyn i bawb ohonom. Mae’n rhan o’n hanes, ein treftadaeth a’n diwylliant.

“Fel gweithle dwyieithog cynhwysol, rydym am i’n gweithwyr deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi i ddefnyddio’r Gymraeg, p’un a ydynt yn siaradwyr rhugl, yn ddysgwyr neu’n datblygu eu sgiliau. Mae’r Siarter yn hybu ymwybyddiaeth o hawliau’r Gymraeg. Mae’n helpu gweithwyr i ddeall y gefnogaeth sydd ar gael iddynt ac mae’n annog cyfleoedd teg a chyfartal i ddefnyddio, dysgu a datblygu’r Gymraeg yn y gweithle.”

Dywedodd Dr Mandy James, Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog TUC Cymru: “Llongyfarchiadau gwresog i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Unison Conwy, GMB ac Unite am ymrwymo i ‘Siarter Twf TUC Cymru’ a’i phedair egwyddor graidd, a gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i greu gweithle dwyieithog cynhwysol a thwf yn nefnydd y Gymraeg yn y gwaith.

"Mae gan undebau llafur rôl allweddol wrth ddarparu cyfiawnder ieithyddol i weithwyr yng Nghymru, ac wrth ddarparu amodau teg a chyfiawn a chyfleoedd i bob gweithiwr ddefnyddio a dysgu’r Gymraeg yn y gwaith.  Maen nhw’n hybu a diogelu hawliau gweithwyr o ran y Gymraeg yn y gwaith, fel mater o degwch, cydraddoldeb a chyfiawnder.

"Mae undebau hefyd yn cefnogi aelodau a gweithwyr i nodi, trefnu a sicrhau mwy o gyfleoedd i bawb ddefnyddio mwy a mwy o’r Gymraeg yn y gwaith, a datblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae defnyddio’r Gymraeg yn sgil werthfawr ac ymarferol. Mae’r Gymraeg yn drysor y gallwn ni i gyd ei ddathlu a bod yn falch ohono – yn y gwaith ac yn ein bywydau.”

Dywedodd Alyn Thomas o Undeb GMB: "Nid yw'r Gymraeg yn warchodfa i ychydig o bobl; mae'n dreftadaeth i lawer. Drwy greu gweithleoedd lle gall y Gymraeg ffynnu, rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn cryfhau cymunedau ac yn sicrhau bod pawb yn gallu teimlo'n falch o'u hiaith a'u hunaniaeth."

I gael rhagor o wybodaeth am y Siarter Twf, ewch i www.tuc.org.uk/cy/Twf

 

Rhoddodd Gabinet Cyngor Conwy gefnogaeth i’r cynnig i lofnodi’r Siarter Twf mewn cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2026.

Mae’r llun yn dangos [o’r chwith]:  Rhun ap Gareth, Prif Wethredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Kim Russell, Ysgrifennydd Cangen Unsain Conwy; Jon Dolan, Ysgrifennydd Cangen GMB Conwy; Eric Cousins, GMB; Dr Mandy James, TUC Cymru; Cllr Julie Fallon, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Wedi ei bostio ar 17/07/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content