Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Premiymau Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn Sir Conwy - Dweud eich dweud

Premiymau Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn Sir Conwy - Dweud eich dweud


Summary (optional)
start content

Premiymau Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn Sir Conwy - Dweud eich dweud

Ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor

Ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal arolwg am y lefel o bremiymau Treth y Cyngor a fydd ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor ar gyfer 2026/27.

Pwrpas y premiwm yw annog perchnogion i ddefnyddio eiddo gwag a chynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar werth neu ar osod mewn cymunedau lleol.  

Mewn cyfarfod ym mis Hydref 2024, bu i’r Cynghorwyr gymeradwyo cynnydd dangosol yn lefel y premiwm ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor o 200% o 1 Ebrill 2026, yn amodol ar adolygiad yn ystod 2025/26. Byddai unrhyw eiddo sydd wedi bod yn wag am 4 mlynedd neu fwy yn destun premiwm o 300%.

Mae’r Cyngor yn cysylltu ag unrhyw un yn y Sir sydd wedi eu cofrestru fel perchnogion ail gartref neu gartrefi gwag i ofyn eu barn, ac i ofyn barn pobl nad ydynt yn berchen ar y mathau yma o eiddo. Gall unrhyw un lenwi’r arolwg a rhoi gwybod i’r Cyngor beth, yn eu barn nhw, fydd canlyniad posibl y premiymau ychwanegol hyn ar bethau fel argaeledd eiddo, y farchnad dai a’r Gymraeg.

Mae’r Cynghorydd Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy sy’n cynnwys y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau, yn annog pobl i roi eu barn i’r Cyngor. Dywedodd, “Mae yna sawl rheswm pam y gall eiddo gael ei adael yn wag. Rydym yn ymwybodol bod angen ystyried y premiymau ychwanegol yma’n ofalus.

“Rydym eisiau annog perchnogion i ailddefnyddio eiddo gwag i gynyddu’r cyflenwad o gartrefi yn ein cymunedau.  Nid yw’n ymwneud â chynyddu incwm - unwaith y bydd eiddo gwag yn cael ei ailddefnyddio, ni fyddai’r premiwm ychwanegol yn berthnasol. Mae hi’n bwysig cofio hefyd, bod yr incwm, ychwanegol sy’n cael ei greu yn cefnogi’r pwysau ar gyllideb tai y Cyngor.

Bydd canlyniadau’r arolwg ac ymchwil arall yn cael ei ystyried gan y Cynghorwyr yn ddiweddarach eleni pan fyddant yn ystyried y penderfyniad terfynol am ba bremiwm fydd yn berthnasol.

Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 30 Gorffennaf 2025 ac mae ar gael yma: www.conwy.gov.uk/premiwm-treth-y-cyngor

 

 

Wedi ei bostio ar 03/07/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content