Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Arolwg Sgwrs y Sir

Arolwg Sgwrs y Sir


Summary (optional)
start content

Arolwg Sgwrs y Sir

County Conversation

Sgwrs y Sir

Rydym ni eisiau clywed gennych chi. Mae eich llais yn bwysig wrth siapio dyfodol Conwy!

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwahodd pawb sy’n byw ac yn gweithio yng Nghonwy i gymryd rhan mewn arolwg budd-ddeiliaid. Mae’r Cyngor yn gofyn i bobl eu barn am Gonwy fel lle i fyw, gweithio ac ymweld; ac i rannu eu safbwyntiau ar nodau’r Cyngor ar gyfer y dyfodol.

Bydd yr ymatebion yn bwydo i mewn i gynllun dyfodol a’r broses gwneud penderfyniadau'r Cyngor, gan sicrhau bod lleisiau pobl leol yn helpu i siapio sut mae gwasanaethau yn cael eu dylunio a’u darparu.

Meddai’r Prif Weithredwr, Rhun ap Gareth: “Rydym eisiau gweithio gyda’n cymunedau i helpu i’w gwneud yn gryfach ac yn fwy gwydn - ac mae hynny’n dechrau trwy wrando. Trwy gymryd rhan yn yr arolwg, gall pobl Sir Conwy helpu i siapio’r dyfodol a dylanwadu’r ffordd rydym yn gweithio. Hoffwn annog pawb i gymryd rhan a rhannu eu barn.”

Dilynwch y ddolen yma Arolwg Sgwrs y Sir i gwblhau’r arolwg.

Mae’r arolwg ar agor nawr a bydd yn cau ar ddydd Gwener, 10 Hydref 2025. Mae copïau papur o’r arolwg hwn ar gael o unrhyw lyfrgell yn Sir Conwy a holl brif adeiladau’r Cyngor. Mae’r arolwg hwn ar gael mewn fformatau eraill ar gais trwy gysylltu â sgwrsysir@conwy.gov.uk

Wedi ei bostio ar 12/08/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content