Penderfyniadau ynghylch Premiwm Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor ar raglenni cyfarfodydd

Premiwm Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor i’w benderfynu
Bydd Cynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n penderfynu ar lefel y Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor Sir Conwy ar gyfer 2026/27 mewn cyfarfodydd yn ystod mis Hydref.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Gorffennaf a derbyniwyd 396 o ymatebion. Bydd Cynghorwyr yn ystyried yr ymatebion fel rhan o’u proses benderfynu, a byddant hefyd yn ystyried y goblygiadau a’r canlyniadau a allent fod yn gysylltiedig â gwahanol lefelau o bremiymau treth y Cyngor.
Mae Premiymau Treth y Cyngor yn ffordd i awdurdodau lleol annog perchnogion i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, i gefnogi’r cynnydd mewn tai fforddiadwy i’w prynu neu eu gosod ac i geisio gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.
Gofynnir i Gynghorwyr benderfynu derbyn yr argymhellion ai peidio gan Weithgor Tai Fforddiadwy (Premiymau Treth y Cyngor) a fu’n cyfarfod fis diwethaf:
- Cadw’r Premiwm Treth y Cyngor presennol o 150% ar gyfer ail gartrefi ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27 a 2027/28.
- Cadw’r Premiwm Treth y Cyngor presennol o 200% ar gyfer cartrefi gwag hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27 a 2027/28.
- Cadw’r Premiwm Treth y Cyngor presennol o 300% ar gyfer cartrefi gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag ers 5 mlynedd neu fwy ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27 a 2027/28.
- Parhau i beidio â chynnig unrhyw ostyngiad ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwyliau ac eiddo gwag hirdymor ac eiddo sydd heb eu dodrefnu yn Nosbarthiadau A, B ac C ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026/2027.
Mae’r refeniw a godir drwy bremiymau ychwanegol yn mynd tuag at gefnogi’r pwysau ar gyllideb tai’r Cyngor.
Mae ystod o fesurau ar gael i helpu i gefnogi unrhyw un sydd ag eiddo gwag i’w ddefnyddio unwaith eto. Anogir perchnogion i gysylltu â thîm tai’r Cyngor ar taigwag@conwy.gov.uk neu 01492 574235.
Trafodwyd yr adroddiad ar Bremiymau gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau'r Cyngor (6 Hydref) a bydd yn mynd i’r Cabinet (14 Hydref) cyn y penderfyniad terfynol gan y Cyngor (23 Hydref). Gellir gwylio’r cyfarfodydd hyn ar wefan y Cyngor yma: Democratiaeth Lleol Conwy : Calendr cyfarfodydd misol - Hydref 2025
Wedi ei bostio ar 06/10/2025