Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Partner Dylunio ar gyfer Prosiect Dyfodol Venue Cymru

Partner Dylunio ar gyfer Prosiect Dyfodol Venue Cymru


Summary (optional)
start content

Partner Dylunio ar gyfer Prosiect Dyfodol Venue Cymru

AOC Architecture

AOC Architecture

Penododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy AOC Architecture yn bartner dylunio arweiniol ar gyfer Prosiect Dyfodol Venue Cymru yn gynharach eleni yn sgil proses gaffael gystadleuol dros ben a fu’n destun cryn ddiddordeb gydol y sector.

Bydd Prosiect Dyfodol Venue Cymru’n buddsoddi cyfalaf sylweddol i foderneiddio Venue Cymru a’i baratoi ar gyfer y dyfodol.

Mae gan AOC Architecture brofiad helaeth o weddnewid adeiladau cyhoeddus drwy gyfuniad o ddylunio creadigol ac ymdrin yn gelfydd â safleoedd o bwys diwylliannol. Ers mwy nag ugain mlynedd, mae’r penseiri wedi hyrwyddo dulliau dyfeisgar mewn dylunio cynaliadwy sy’n helpu i leihau allyriadau carbon, defnyddio ynni’n fwy effeithlon a chreu budd hirdymor i’r cyhoedd.

Meddai Sarah Ecob, Pennaeth Economi a Diwylliant Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Roedd hi’n anhygoel cael cymaint o geisiadau graenus am y tendr. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gyflwynodd gais. Fe wnaeth AOC Architecture gryn argraff arnon ni gyda’u ffordd o weithio a’u dealltwriaeth o brosiectau fel ein un ni. Mae’n bleser inni fod yn gweithio â nhw ac rydym yn llawn cyffro i weld y dyluniadau’n datblygu wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.”

Meddai Tom Coward, Cyfarwyddwr AOC Architecture: “Rydym wrth ein bodd o gael ein penodi i helpu i weddnewid Venue Cymru yn Llandudno. Mae’r prosiect yn gyfle cyffrous i greu mannau diwylliannol o bwys a ddaw â budd i genedlaethau o bobl yng ngogledd Cymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos â’r tîm cyfan i greu rhywle i’r gymuned gyfan fod yn falch ohono.”

Mae AOC Architecture yn mynd ati’n awr i lunio’r dyluniadau manwl a fydd yn mynd drwy’r drefn gynllunio. Maent yn gweithio’n agos â Thîm Prosiect Dyfodol Venue Cymru wrth ddatblygu eu syniadau ac ymgynghori â phawb sy’n rhan o’r prosiect.

Gweithredir Prosiect Dyfodol Venue Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Cynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Uchelgais Gogledd Cymru drwy Gynllun Twf Gogledd Cymru (yn amodol ar gymeradwyo’r achos busnes llawn), ac mae eu buddsoddiad parhaus yn helpu i greu dyfodol sicr ar gyfer celfyddydau a diwylliant yng ngogledd Cymru.

Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost i vcf@conwy.gov.uk

 

Venue Cymru 
Mae Prosiect Dyfodol Venue Cymru’n rhaglen i fuddsoddi cyfalaf sylweddol mewn moderneiddio Venue Cymru a’i baratoi ar gyfer y dyfodol, diogelu a gwella’r llyfrgell yn Llandudno, creu Canolbwynt Diwylliannol newydd a chartref parhaol i’r Ganolfan Croeso.
Bydd yr hyn a gynigir yn gwella mynediad i’r cyhoedd, yn gwneud y gwasanaeth yn fwy gweledol ac yn hybu cynaladwyedd drwy ddod â gwasanaethau diwylliannol a chymunedol a’r ganolfan croeso ynghyd dan yr un to mewn safle â chysylltiadau da, a hefyd yn creu cyfleusterau newydd i gefnogi’r diwydiannau creadigol yn y sir. 
Gweithredir Prosiect Dyfodol Venue Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Cynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Uchelgais Gogledd Cymru drwy Gynllun Twf Gogledd Cymru (yn amodol ar gymeradwyo’r achos busnes llawn), ac mae eu buddsoddiad parhaus yn helpu i greu dyfodol sicr ar gyfer celfyddydau a diwylliant yng ngogledd Cymru.

AOC Architecture 
Mae AOC yn gwmni o benseiri a dylunwyr sy’n cael ei arwain gan Tom Coward, Gill Lambert a Geoff Shearcroft. Sefydlwyd y cwmni yn 2005 ac mae ei bencadlys yn nwyrain Llundain, ac mae’n fwyaf adnabyddus am adeiladau cyhoeddus newydd, gweddnewid sefydliadau diwylliannol, mannau dysgu a phrosiectau preswyl.  
Mae AOC yn gweithio gyda diwylliant a chymunedau wrth greu adeiladau, lleoedd a phrofiadau sy’n amrywio o ddodrefn a defnyddiau unigryw i adeiladau cyhoeddus mawr y mae angen ymdrin â hwy’n gelfydd. Maent yn arbenigo’n benodol mewn llunio briffiau a dyluniadau hybrid ar y cyd er mwyn goresgyn heriau cyfoes. 
Ymysg y prosiectau maent wedi’u cwblhau mae’r Young V&A, gweddnewid yr hen Amgueddfa Plentyndod yn Llundain (Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2024); Locomotion New Hall, adeilad newydd i arddangos casgliadau cyhoeddus yr Amgueddfa Rheilffordd Genedlaethol yn Shildon, Swydd Durham; cynllun meistr ar gyfer ailddatblygu’r Amgueddfa Gwyddoniaeth a Chyfryngau Genedlaethol yn Bradford; Stiwdios Somerset House, canolfan gelf gyfoes mewn hen swyddfeydd llywodraeth mewn adeilad rhestredig Gradd I ynghanol Llundain (Gwobr New London 2022); Canolfan Dreftadaeth Southwark a Llyfrgell Walworth (rhan o ddatblygiad cymysg Orchard Gardens a oedd ar restr fer Gwobr Stirling Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain yn 2022); a’r Ystafell Ddarllen ar gyfer Casgliad Wellcome - “un o’r mannau cyhoeddus newydd brafiaf yn Llundain” yn ôl y Telegraph; ac ailddatblygu adeilad rhestredig Gradd II* Lloyd’s Register i greu sefydliad diwylliannol newydd i’r cyhoedd yn Ninas Llundain.  
Mae’r prosiectau sydd ganddynt ar y gweill ar hyn o bryd yn cynnwys gweddnewid eicon briwtalaidd yr Archifau Gwladol yn Kew; canolfan ddysgu newydd ar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Côr y Cewri; adeilad addysgu London City Island yr Academi Gerdd Frenhinol; ailagor sinema hanesyddol Paignton Picture House yn Nyfnaint; ac adnewyddu ac ymestyn theatr y Priory ar lannau afon Ouse yn St Neots, Swydd Caergrawnt.  
Mae AOC wedi datblygu enw da am ansawdd eu dyluniadau ac ennill gwobrau gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain, Dyluniad y Flwyddyn yr Amgueddfa Ddylunio, Amgueddfa’r Flwyddyn gan y Gronfa Gelf a New London.  Mae gwaith y cwmni wedi’i gyhoeddi a’i arddangos yn rhyngwladol, gan gynnwys yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain, yr Academi Frenhinol, Amgueddfa V&A a’r Biennale yn Fenis. AOC Architecture

 

 

Wedi ei bostio ar 11/06/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content