Casgliadau cynnar oherwydd y rhybudd tywydd

Recycling collection
Oherwydd y tywydd anarferol o boeth, bydd ein criwiau casglu’n cychwyn yn gynt na’r arfer bob bore tan ddydd Gwener er mwyn osgoi gweithio yn ystod cyfnodau poethaf y dydd.
Er mwyn ein helpu ni i wneud y gwaith, gofynnwn yn garedig i drigolion roi eu cynwysyddion allan y noson cyn eu diwrnod casglu i sicrhau nad ydynt yn methu eu casgliad.
Bydd y criwiau casglu’n dechrau am 5am yn hytrach na 7am.
Bydd y casgliadau yn ôl i’r drefn arferol ddydd Llun.
Diolch i chi am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn o dywydd poeth.
Wedi ei bostio ar 23/06/2026