Y gwasanaethau brys a phartneriaid yn uno i fynd i'r afael hefo diogelwch dŵr ar draws Gogledd Cymru

Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru
Daeth y gwasanaethau brys a phartneriaid o bob rhan o Ogledd Cymru ddoe (dydd Iau, 30 Gorffennaf) i drafod y nifer diweddar o farwolaethau trasig sy’n gysylltiedig hefo dŵr yn y rhanbarth.
Trefnwyd a chadeiriwyd y cyfarfod gan Heddlu Gogledd Cymru mewn ymateb i bryderon cynyddol ynghylch nifer y digwyddiadau a’r effaith ddinistriol maen nhw wedi’i gael ar deuluoedd, cymunedau a’r ymatebwyr brys.
Roedd cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau yn bresennol – yn yr ystafell ac ar-lein. Roeddent yn cynnwys y gwasanaethau brys, cynllunwyr brys awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol eraill fel Gwylwyr y Glannau, yr RNLI a’r timau achub mynydd. Roedd hyn er mwyn rhannu gwybodaeth, nodi heriau cyffredin ac edrych ar gyfleoedd i gryfhau diogelwch dŵr ar draws y rhanbarth.
Hwyluswyd y drafodaeth gan Heddlu Gogledd Cymru – a gynhaliwyd ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mae Colwyn, gan ddod â phartneriaid ynghyd i ystyried sut y gall asiantaethau weithio’n agosach i leihau’r risg o drasiedïau pellach. Canolbwyntiodd y cyfarfod ar wella cydweithio, rhannu arbenigedd a nodi mesurau ymarferol i wella ataliaeth, addysg ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Dywedodd Prif Uwcharolygydd Owain Llewellyn, Cadeirydd y Bartneriaeth Diogelwch Awyr Agored: “Mae’r naw farwolaeth ddiweddar yn ein llynnoedd a’n hafonydd ni a’r môr wedi bod yn bryderus iawn ac mae ein meddyliau ni hefo teuluoedd, ffrindiau a chymunedau’r rhai a effeithiwyd. Er bod llawer o sefydliadau eisoes yn gweithio’n galed i hyrwyddo diogelwch dŵr, trwy ddod â phartneriaid at ei gilydd gallwn gryfhau ein dull ar y cyd.
“Roedd cyfarfod ddoe’n nodi cam cyntaf pwysig. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi hwyluso’r drafodaeth hon oherwydd ein bod ni’n cydnabod bod atal trasiedïau pellach yn gofyn am ymateb cydlynol. Mae partneriaid wedi ymrwymo parhau cydweithio er mwyn nodi cyfleoedd i wella addysg, atal a negeseuon diogelwch, hefo’r nod ar y cyd o leihau nifer o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig hefo dŵr ar draws Gogledd Cymru.”
Wrth i lawer o bobl barhau mwynhau’r arfordir, llynnoedd ac afonydd hardd Gogledd Cymru yn ystod y tywydd cynhesach, mae asiantaethau’n gofyn i bawb fod yn ymwybodol y gall dŵr beri peryglon ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Gall hyd yn oed lleoedd sy’n ymddangos yn dawel fod â pheryglon cudd, gan gynnwys dŵr oer, cerrynt cryf a newidiadau sydyn mewn dyfnder.
Os ‘da chi’n bwriadu treulio amser yn, ar neu o amgylch y dŵr, cymerwch funud i feddwl am eich diogelwch chi a diogelwch y rhai sydd hefo chi. Gall cynllunio o flaen llaw, gwybod yr amodau a gofalu am ein gilydd wneud gwahaniaeth go iawn.
Os byddwch chi’n mynd i mewn i ddŵr oer annisgwyl, dilynwch gyngor yr RNLI a’r ymgyrch Float to Live; pwyswch yn ôl, cadwch eich clustiau o dan ddŵr a cheisiwch ymlacio a rheoli’ch anadlu nes y gallwch alw am help neu nofio i ddiogelwch.
Mae cyngor pellach ar gael yma Float To Live – What To Do If You Fall In Water
Os gwelwch rywun mewn anhawster, peidiwch â mynd i mewn i ddŵr i’w hachub nhw. Ffoniwch 999 ar unwaith a gofynnwch am Wylwyr y Glannau os ‘da chi ar yr arfordir, neu’r Gwasanaeth Tân ac Achub os ar y tir. Os ydy hi’n bosib, taflwch rywbeth sy’n arnofio i’w helpu i aros uwchben y dŵr.
Ychwanegodd Prif Uwcharolygydd Llewellyn: “‘Da ni am i bawb fwynhau popeth sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig a dychwelyd adref yn saff. Felly ‘da ni’n annog pobl leol ac ymwelwyr wneud diogelwch yn flaenoriaeth pryd bynnag y maen nhw’n mwynhau’r awyr agored a chymryd eiliad i feddwl am sut y gallen nhw leihau’r risgiau.
Boed eich bod yn cerdded yn y mynyddoedd, yn treulio amser ar yr arfordir, neu’n ymweld hefo’r llynnoedd a’r afonydd, mae amodau’n gallu newid yn gyflym. Neilltuwch amser i gynllunio ymlaen, edrych ar y tywydd a gwybodaeth am y llanw, gan wneud yn siŵr fod gynnoch chi’r offer iawn. Byddwch chi’n realistig ynghylch eich profiad a’ch gallu chi. O gwmpas dŵr, byddwch yn ymwybodol o’r risgiau yn deillio o gerrynt cryf a sioc mynd i ddŵr oer. Cadwch lygad barcud hefyd ar blant.
“Mae gan bawb gyfrifoldeb personol gwneud penderfyniadau synhwyrol ac edrych ar ôl eu hunain a’r rhai o’u hamgylch nhw. Wrth fod yn ofalus, mi fedrwn ni gyd helpu atal digwyddiadau y gellir eu hosgoi a gwneud yn siŵr fod pawb yn gallu mwynhau Gwynedd yn saff drwy gydol yr haf."
Mae rhagor o gyngor a gwybodaeth am ddiogelwch yn yr awyr agored ar gael yma: Home - AdventureSmartUK
Wedi ei bostio ar 31/07/2026