Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cystadleuaeth gymnasteg cyntaf Ffit Conwy yn llwyddiant ysgubol

Cystadleuaeth gymnasteg cyntaf Ffit Conwy yn llwyddiant ysgubol


Summary (optional)
start content

Cystadleuaeth gymnasteg cyntaf Ffit Conwy yn llwyddiant ysgubol

Ffit Conwy Gymnastic Comp

Clwb Gymnasteg Ffit Conwy

Daeth dros 200 o gystadleuwyr trampolinio a gymnasteg talentog o Sir Conwy ynghyd am ddigwyddiad hwyliog ar ddydd Sadwrn 21 Chwefror 2026 i arddangos eu sgiliau.

Roedd y digwyddiad Clwb Gymnasteg Ffit Conwy a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Conwy yn dod a phlant ac oedolion o bob lefel gallu i gystadlu mewn amrywiaeth o berfformiadau a phatrymau, o flaen cynulleidfa fawr a phanel o feirniaid.

Dywedodd Elaine Williams, Cydlynydd Gymnasteg/Trampolinio Ffit Conwy a Threfnydd y Digwyddiad: “Am ddiwrnod gwych! Roedd y cystadleuwyr trampolinio a gymnasteg yn anhygoel! Mae pawb wedi gweithio mor galed yn paratoi ar gyfer y digwyddiad hwn a rhoddodd pawb eu gorau.

“Rydym mor falch o bob un. Gwelwyd cymaint o ddewrder, gwaith caled, digon o hwyl a pherfformiadau gwych.

Mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth, ac mae nifer o bethau ar y gweill ar gyfer 2026 gan gynnwys mwy o ddosbarthiadau, gan alluogi mwy o blant i ymuno.”

Derbyniodd pob cystadleuwr fedal, tystysgrif a chrys-t a chyflwynwyd gwobrau i’r enillwyr.

Dechreuodd y Clwb Gymnasteg ym Medi 2025 gan Wasanaethau Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Ffit Conwy) gan weithio mewn partneriaeth gyda Gymnasteg Cymru yn dilyn y cynllun gwobrau RISE.

Mae’r rhaglen yn darparu siwrnai gynyddol trwy gymnasteg hamdden lle gall pob plentyn brofi ystod eang o weithgareddau, patrymau symud sylfaenol a sgiliau gymnasteg a gwneud y mwyaf o’u creadigrwydd.

I ddarganfod mwy am raglen Gymnasteg RISE Ffit Conwy ewch i https://ffit.secure.conwy.gov.uk/cy/Home/Activities-and-Learning/Childrens-Activities/RISE-Gymnastics.aspx

Wedi ei bostio ar 27/02/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content