Cerflun olaf wedi'i osod ar gyfer Llwybr Alys Llandudno

Final Alice Statue
Mae cerflun olaf wedi’i osod ar gyfer Llwybr Alys Llandudno, sy’n cwblhau'r gwaith adnewyddu i ddathlu etifeddiaeth Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud Lewis Carroll.
Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i adnewyddu a thrwsio cerfluniau poblogaidd Alys yng Ngwlad Hud ac ail-lansiwyd y llwybr yn swyddogol ym mis Mawrth 2025.
Fodd bynnag, mae’r cerflun olaf hwn wedi’i gyfrannu gan y contractwyr sy’n gwneud y gwaith gosod – RELM Construction.
Mae gan Lwybr Alys le arbennig yng nghalonnau tîm RELM, gan fod Kai, nai a ŵyr annwyl, wrth ei fodd â’r llwybr. I gofio amdano, mae RELM wedi cyfrannu cerflun “Down the Rabbit Hole” sydd yn y Fach.
Yn drist, y mis diwethaf, cyn i’r cerflun olaf hwn allu cael ei gwblhau a’i osod, bu farw Edward Roberts, taid Kai a rheolwr prosiect yn RELM. Bydd cerflun “Down the Rabbit Hole” yn gofeb i Kai ac Edward.
Dyma oedd gan y Cynghorydd Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy, i’w ddweud: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu ymwelwyr yn ôl i Lwybr Alys. Mae’r llwybr yn dathlu hud campwaith Lewis Carroll ac mae hefyd yn cynnwys cofeb arbennig iawn bellach, ac mae’n dod â phobl a’n cymuned at ei gilydd mewn ffordd arbennig iawn. Hoffem ddiolch i RELM am eu cyfraniad arbennig iawn i’r llwybr ac am eu holl waith caled trwy gydol y prosiect.”
Mae taflen a map newydd ar gyfer Llwybr Alys i dywys ymwelwyr ar hyd y llwybr ar gael i’w prynu o Ganolfan Groeso Llandudno yng Nghanolfan Siopa Fictoria.
Wedi ei bostio ar 18/06/2025