Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cipolwg Cyntaf ar Argraffiadau'r Arlunydd ar gyfer Venue Cymru
start content

Cipolwg Cyntaf ar Argraffiadau'r Arlunydd ar gyfer Venue Cymru

Venue Cymru - Artist's impression of interior

Argraffiad Arlunydd ar gyfer Venue Cymru

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o rannu cipolwg cyntaf ar argraffiadau’r arlunydd ar gyfer y cynigion cyffrous ar gyfer Venue Cymru, Llandudno.

Mae’r delweddau newydd yn cynnig cipolwg ar ddatblygiad arfaethedig Venue Cymru.  Maen nhw’n arddangos lle wedi’i drawsnewid sy’n ceisio gwasanaethu’r gymuned leol, defnyddwyr y llyfrgell, ymwelwyr, gweithwyr diwylliannol a defnyddwyr y theatr yn well.

Mae argraffiadau’r artist wedi’u cynnwys mewn adroddiad y bydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle yr wythnos nesaf. Gofynnir i Gynghorwyr ystyried y cynigion drafft a gwneud argymhellion i’r Cabinet.

Bydd yr adroddiad hefyd yn cynnwys canlyniadau'r Ymgynghoriad Cyhoeddus am y Llyfrgell a'r adroddiad effaith economaidd amlinellol am y bwriad o symud Llyfrgell Llandudno i Venue Cymru.

Bydd y broses o ail-ddylunio yn helpu i ddiogelu’r llyfrgell ardal a lle Venue Cymru fel prif gyrchfan diwylliant a digwyddiadau yng ngogledd Cymru.

Yn ogystal â darparu cyfleusterau modern a gwella hygyrchedd, bydd disgwyl i’r gwaith o leoli’r Ganolfan Groeso a’r Llyfrgell Ardal gyda’i gilydd arwain at arbedion cost o dros £100,000 y flwyddyn.

“Mae gweld argraffiadau’r artist yn garreg filltir gyffrous i’r prosiect,” dywedodd Pennaeth yr Economi a Diwylliant Conwy, Sarah Ecob, “mae’n helpu i wireddu ein gweledigaeth ac mae’n dangos ein hymrwymiad i greu canolbwynt diwylliannol sy’n gynhwysol, modern ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”

“Mae’r cynigion hyn ar gyfer Venue Cymru yn rhan o strategaeth ehangach i ddiogelu gwasanaethau hanfodol a chefnogi twf economaidd, datblygiad diwylliannol a thwristiaeth yng Nghonwy.”

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, Aelod Cabinet Diwylliant Conwy: “Mae’r gwaith ailddatblygu hwn yn fuddsoddiad sylweddol ym mywyd diwylliannol ein rhanbarth. Mae Venue Cymru wedi bod yn gonglfaen o ran ein celfyddydau ac adloniant ers amser maith. Nod y cynigion cyffrous hyn yw sicrhau ei fod yn parhau i ysbrydoli ac ymgysylltu â chenedlaethau'r dyfodol a sicrhau dyfodol y llyfrgell ardal. Rwy’n gobeithio y bydd Cynghorwyr yn cefnogi’r prosiect hwn, sy’n addo dathlu creadigrwydd, dod â phobl at ei gilydd a chryfhau hunaniaeth ddiwylliannol ein cymunedau.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy: “Rwy’n falch iawn o gefnogi’r buddsoddiad hwn yn Venue Cymru, oherwydd bydd y prosiect yn rhoi hwb i’r economi leol. Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnal a chreu swyddi yn y tymor byr ac yn helpu i ddiogelu a datblygu swyddi yn y dyfodol. Bydd yn rhoi gwell mynediad i’r celfyddydau a diwylliant, i gyd o dan yr un to, ond yr un mor bwysig â hyn, bydd yn helpu i gynnal Venue Cymru, sy’n lleoliad annwyl iawn i ni, y Gwasanaeth Llyfrgell a Chanolfannau Croeso, er budd ein holl breswylwyr ac ymwelwyr”

Mae’r adroddiad a’r cynlluniau ar gael i’w gweld ar wefan Conwy yn: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2025, 5.30 pm

Mae’r Achos Busnes drafft ar gyfer cyllid wedi’i gyflwyno i Lywodraeth y DU. Bydd cynlluniau terfynol yn amodol ar gymeradwyaeth Cynghorwyr. Bydd modd gweld y cynlluniau yn Venue Cymru, y Ganolfan Groeso a Llyfrgell Llandudno dros y misoedd nesaf.

Wedi ei bostio ar 26/06/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content