Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Foster Care Fortnight 2026

Pythefnos Gofal Maeth 2026


Summary (optional)
start content

Pythefnos Gofal Maeth 2026

Foster Care Fortnight 2026 Steve and Karen

Steve and Karen

"Pan rydych chi’n eu gweld nhw nawr" - Gofalwyr maeth yng Nghonwy yn rhannu’r eiliadau hynny sy’n dangos datblygiad ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth

Y tro cyntaf i blentyn chwerthin, trafod ei ddiwrnod, gofyn i wylio ffilm; mae'r rhain yn eiliadau y gallai llawer eu cymryd yn ganiataol, ond i ofalwyr maeth yng Nghymru, maent yn symbol o un peth, sef datblygiad.

Mae plant sydd wedi profi trawma yn aml yn datblygu ffyrdd o amddiffyn eu hunain. Gallai hyn gynnwys ymddygiadau fel pryder, tynnu yn ôl yn emosiynol, ymateb mewn ffordd ddwys neu ei chael hi’n anodd dilyn rheolau.

Mae arolwg cenedlaethol a gomisiynwyd gan Maethu Cymru wedi darganfod bod tua 80% o ofalwyr a holwyd wedi cefnogi plant wnaeth arddangos ymddygiadau fel hyn. Er y gall yr heriau hyn fod yn anodd, dywedodd hanner y gofalwyr maeth a holwyd hefyd eu bod wedi sylwi ar ddatblygiadau ystyrlon o fewn y chwe mis cyntaf.

Rhannodd gofalwyr maeth fod yr eiliadau arloesol hyn yn aml yn ymwneud â’r cyfnodau bach o gysylltiad, ond maent yn cynrychioli mwy na hynny: i blant mewn gofal, mae'n golygu eu bod wedi gwneud cynnydd, eu bod wedi dechrau teimlo'n ddiogel, eu bod wedi dechrau gwella, teimlo eu bod yn cael eu caru a’u cefnogi wedi trawma plentyndod.

O ganlyniad i brofiad, cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol, dywedodd bron pob gofalwr (93%) eu bod bellach yn hyderus wrth ymateb i ymddygiad sy'n gysylltiedig â thrawma.

Caiff y canfyddiadau hyn eu rhyddhau cyn Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch flynyddol fwyaf y DU sy'n digwydd bob mis Mai i godi ymwybyddiaeth o faethu. Mae thema eleni, ‘Dyma yw Maethu’, yn amlygu profiadau go iawn gofalwyr maeth a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth helpu plant i deimlo'n ddiogel.

Mae Steve a Karen wedi bod yn maethu gyda Maethu Cymru Conwy ers dros 15 mlynedd, ac mae gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau wedi dod yn un o brofiadau mwyaf ystyrlon eu taith.

Mae’r ffordd maen nhw’n mynd ati yn canolbwyntio ar feithrin annibyniaeth a pharatoi pobl ifanc ar gyfer bywyd fel oedolion, gan annog pobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb gam wrth gam. “Efallai fod y rhain yn ymddangos fel gwersi bach, ond maen nhw’n helpu i feithrin hyder ac yn cefnogi pobl ifanc i ddychmygu dyfodol iddyn nhw eu hunain,” meddent.

Dywedodd Steve mai’r eiliadau mwyaf gwerth chweil yw “pan rydych chi’n eu gweld nhw nawr” ac yn gweld beth mae’r bobl ifanc y maen nhw wedi gofalu amdanynt wedi mynd ymlaen i’w gyflawni. Ychwanegodd Karen, “Rydyn ni’n falch o bob un ohonyn nhw oherwydd maen nhw i gyd wedi cyflawni rhywbeth.”

Mae’r bobl ifanc maen nhw wedi’u cefnogi wedi mynd ymlaen i’r brifysgol, wedi cymhwyso mewn proffesiynau fel nyrsio a gofal deintyddol, wedi dechrau gweithio, wedi dysgu gyrru, ac wedi adeiladu bywydau annibynnol. Mae llawer yn parhau i gadw mewn cysylltiad, gan ddychwelyd am giniawau Nadolig, barbeciws, ac ymweliadau rheolaidd - perthnasoedd sydd wedi para ymhell y tu hwnt i’w cyfnod mewn gofal.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Stephanie Robbins: “Yn Maethu Cymru Conwy, rydym yn falch o’n gofalwyr maeth a’r gefnogaeth gyson sy’n newid bywydau y maent yn ei darparu i bobl ifanc, yn aml ar adegau pan fo’i hangen fwyaf.

“Fel y nododd Steve a Karen, y pethau bach bob dydd – rhannu pryd o fwyd, siarad am yr ysgol, dewis ffilm – sy’n helpu pobl ifanc i deimlo’n ddiogel, meithrin ymddiriedaeth a dechrau credu yn eu dyfodol eu hunain. Gall cael oedolyn dibynadwy a chyson wneud byd o wahaniaeth wrth helpu plant i ollwng eu hamddiffynfeydd a chymryd camau ymlaen ar ôl trawma.

“Yng Nghonwy, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein gofalwyr maeth fel eu bod yn teimlo’n barod, yn hyderus ac nad ydynt byth ar eu pen eu hunain wrth helpu pobl ifanc i symud ymlaen i fod yn oedolion, cyflawni eu nodau ac aros yn gysylltiedig.”

I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Nghonwy, ewch i: conwy.maethucymru.llyw.cymru

 

Wedi ei bostio ar 13/05/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content