Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gofalwyr Maeth yng Nghonwy'n dathlu cyfraniad brodyr a chwiorydd maeth

Gofalwyr Maeth yng Nghonwy'n dathlu cyfraniad brodyr a chwiorydd maeth


Summary (optional)
start content

Gofalwyr Maeth yng Nghonwy'n dathlu cyfraniad brodyr a chwiorydd maeth

Foster Wales Conwy Marie & Mark

Mark, Catrin, Marie ac Eleri.

Mae Gofalwyr Maeth yng Nghonwy’n dathlu cyfraniad allweddol eu plant eu hunain yn y siwrnai maethu. 

Fel rhan o Wythnos Plant Gofalwyr Maeth (13 -19 Hydref), mae Gofalwyr Maeth Conwy’n rhannu straeon am sut mae eu plant wedi helpu i groesawu a gwneud i’r rhai sy’n derbyn gofal deimlo’n hapusach, yn fwy diogel a’u hamgylchynu â chariad. 

Dywed rhai pobl mai’r effaith bosibl ar eu plant eu hunain yw un o’r rhwystrau i fod yn ofalwr maeth, ond mae nifer o blant yn teimlo eu bod yn elwa o fod yn rhan o deulu sy’n maethu.  Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad cyfoethog sy’n gallu helpu plant i ddysgu a datblygu fel unigolion.  Mae plant hefyd yn nodi eu bod yn gallu datblygu eu cysylltiadau eu hunain â phlant a gaiff eu maethu yn eu cartref.

Mae Mark a Marie wedi rhannu eu stori nhw o gynnwys eu plant yn y broses o faethu drwy Maethu Cymru Conwy. 

Mae Marie, ynghyd â’i gŵr Mark a’u dwy ferch Eleri a Catrin, wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol Maethu Cymru Conwy ers 2019. Mae’r teulu wedi dewis maethu plant iau am y tro i gyd-fynd â deinameg y cartref ac oedran eu plant eu hunain, sydd bellach yn 15 a 18 oed.

“Rydym wedi egluro’r gwahanol resymau a sefyllfaoedd pam y gallai fod angen gofal maeth ar blant. Ond dydyn nhw erioed wedi gwybod manylion a chefndir y plant rydyn ni wedi'u maethu. Does dim angen iddyn nhw wybod hynny. Y cyfan maen nhw'n ei wybod yw bod eu teuluoedd biolegol yn dal i'w caru a'n bod ni'n eu helpu nhw nes y gallan nhw fod yn ôl gyda'i gilydd eto."

“Mae Maethu’n effeithiol; mae wedi gwneud byd o les i’r plant.  Mae wedi llunio eu personoliaethau. Maen nhw wedi tyfu cymaint, wedi aberthu ac wedi ennill sgiliau bywyd gwerthfawr.”

“Ond mae'n llawer mwy na hynny. Mae wedi effeithio ar y ffordd y maen nhw’n teimlo am blant eraill a’u hymwybyddiaeth o pam na ddylech chi farnu unrhyw un. Maen nhw wedi dod i ddeall y stigma o amgylch plant mewn gofal maeth a sut mae angen mynd i’r afael â hyn mewn cymdeithas.”

Gallwch ddarllen stori lawn Marie a Mark yma: maethu fel teulu: sut i faethu'n llwyddiannus gyda'ch plant eich hun – Maethu Cymru.

I ddysgu mwy am fod yn ofalwr maeth yng Nghonwy, ewch i Maethu yng Nghonwy | Maethu Cymru Conwy

 

Wedi ei bostio ar 13/10/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content