Adolygiad o ddyfodol dwy ysgol wledig
Mae Gwasanaeth Addysg Conwy’n ceisio caniatâd i ymgynghori ar ddyfodol dwy ysgol gynradd.
Yn yr wythnosau i ddod, bydd aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Sgiliau a’r Cabinet yn ystyried adroddiadau am ddyfodol Ysgol Ysbyty Ifan ac Ysgol Betws-y-coed.
Dan God Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, rhaid dilyn gweithdrefn wrth ystyried dyfodol ysgolion gwledig, a’r cam cyntaf yw ymgynghoriad ffurfiol.
Mae nifer y disgyblion yn y ddwy ysgol wedi bod yn gostwng yn raddol dros y 6 mlynedd diwethaf, a rhagwelir y bydd y lefel hon yn cael ei chynnal am y 5 mlynedd nesaf.
Mae gan Ysgol Ysbyty Ifan ddigon o le i dderbyn 40 o ddisgyblion, ac 14 o ddisgyblion sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd*.
Mae gan Ysgol Betws-y-coed ddigon o le i dderbyn 100 o ddisgyblion, ac 14 o ddisgyblion sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd*.
Mae’n bwysig nodi bod Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion, ac mae gofyn i’r Cyngor ddangos cyfiawnhad cadarn dros wneud hynny ar ôl ystyried pob dewis posib arall.
Os caiff y cais ei gymeradwyo, mae disgwyl i’r ymgynghoriadau gychwyn yn y mis nesaf, a chaiff yr ymatebion eu cyflwyno i’r Cynghorwyr eu hystyried y flwyddyn nesaf.
Meddai Aelod Cabinet Addysg Conwy, y Cynghorydd Aaron Wynne: “Mae’r ymgynghoriad hwn yn gam angenrheidiol er mwyn sicrhau ein bod yn ceisio barn cymuned yr ysgol. Bydd yn sicrhau bod proses dryloyw ar waith i alluogi cymunedau i rannu eu barn.”
Nodiadau:
*data a gasglwyd yng Nghyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) Llywodraeth Cymru (Ionawr 2025).
Gan fod Ysgol Ysbyty Ifan ac Ysgol Betws-y-coed wedi’u dynodi'n ysgolion gwledig dan God Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, rhaid i unrhyw gynnig i’w cau ddilyn gweithdrefnau penodol. Mae'r rhain yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn eu cau a gofyniad i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddangos cyfiawnhad cadarn dros wneud hynny, ar ôl ystyried yr holl ddewisiadau amgen posib yn gydwybodol.
Mae’r adroddiadau a’r dolenni i wylio ffrwd fyw o’r cyfarfodydd ar gael yn:
Democratiaeth Leol Conwy : Rhaglen cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Sgiliau ddydd Mawrth, 4 Tachwedd 2025, 5.00pm
Democratiaeth Leol Conwy : Rhaglen ar gyfer y Cabinet ddydd Mawrth, 11 Tachwedd 2025, 2.00 pm
Wedi ei bostio ar 29/10/2025