Canlyniadau TGAU 2026

Dosbarth
Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion sydd wedi casglu eu canlyniadau TGAU bore ma.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Addysg Conwy:
Mae’n ddiwrnod canlyniadau TGAU heddiw ac rydw i eisiau dechrau drwy ddweud llongyfarchiadau gwresog wrth bob un ohonoch chi sydd wedi derbyn eich canlyniadau y bore ’ma. Rydw i’n gwybod faint o waith caled, ymroddiad a gwytnwch rydych chi wedi ei roi i gyrraedd y fan hyn, ac fe ddylech chi fod yn hynod o falch o’ch hunain; a dwi’n siŵr bod eich teulu, eich ffrindiau, a’ch athrawon sydd wedi eich cefnogi chi ar y daith yn falch ohonoch chi hefyd.
Beth bynnag ydy’ch cam nesaf chi – boed yn 6ed dosbarth, coleg, prentisiaeth, gwaith neu rywbeth hollol wahanol – rydw i’n dymuno pob llwyddiant i chi wrth i chi ddechrau’r bennod newydd gyffrous yma. Cymerwch amser i ddathlu’r hyn rydych chi wedi ei gyflawni, mwynhewch weddill yr haf ac edrychwch ymlaen gyda hyder.
Wedi ei bostio ar 20/08/2026