Cymryd Rhan - Moderneiddio Cymunedau Dysgu

Strategaeth ar gyfer Moderneiddio Cymunedau Dysgu 2026-2035
Mae Gwasanaeth Addysg Conwy’n awyddus i glywed eich barn am ei Strategaeth Foderneiddio ddiwygiedig.
Mae’r Strategaeth ar gyfer Moderneiddio Cymunedau Dysgu 2026-2035 yn anelu at sicrhau fod adeiladau ein hysgolion a’n cyfleusterau addysg yn annog dysgu ac yn lleoedd iach i ffynnu.
Mae’r Strategaeth ddrafft yn:
- Disgrifio ein gweledigaeth ar gyfer dysgu yn 2026-2035.
- Egluro pam bod angen i ni barhau i foderneiddio.
- Egluro’r prosesau y mae’n rhaid eu dilyn ar gyfer unrhyw newidiadau.
- Egluro y bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cael eu trafod â chymunedau.
Meddai’r Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg, “Rydym am sicrhau bod ein hadeiladau ysgol, adnoddau addysgu a phrofiadau dysgu disgyblion yn addas i’r dyfodol. Mae angen i ni adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol, mynd i’r afael â heriau sy’n dod i’r amlwg a gwneud y mwyaf o gyfleoedd newydd.”
“Byddwn yn annog dysgwyr, rhieni, llywodraethwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb i gymryd rhan a rhannu eu barn â ni.”
Mae’r strategaeth ddrafft a’r holiadur ar gael ar wefan Conwy ar: Strategaeth ar gyfer Moderneiddio Cymunedau Dysgu - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, gallwch gael copi papur o’r dderbynfa yng Nghoed Pella.
Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg tan 15 Medi 2025. Cyflwynir y canlyniadau i Gynghorwyr yn nes ymlaen eleni.
Wedi ei bostio ar 16/07/2025