Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Get ready to Explore Outside – and help your kids boost their mental health and wellbeing

Ewch ati i Archwilio'r Tu Allan – a helpwch eich plant i roi hwb i'w hiechyd meddwl a'u lles meddyliol


Summary (optional)
start content

Ewch ati i Archwilio'r Tu Allan – a helpwch eich plant i roi hwb i'w hiechyd meddwl a'u lles meddyliol

NWRPB Explore_Outside_Crop

Archwilio’r Tu Allan

Gallwch wneud llawer iawn o weithgareddau rhad ac am ddim i annog eich plant i gadw’n heini a chynorthwyo â'u hiechyd meddwl a’u lles meddyliol yma yn Sir Conwy y gwanwyn hwn.

Yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant a chyn y gwyliau hanner tymor, byddwn yn dangos sut y gallwch chi a'ch teulu gael hwyl yn archwilio'r mannau chwarae, coedwigoedd, teithiau cerdded a thraethau gorau.

Mae Archwilio’r Tu Allan yn gyfeiriadur chwiliadwy sy’n cynnig manylion lleoedd i chwarae sy’n addas i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Fe'i datblygwyd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant  ochr yn ochr â swyddogion chwarae awdurdodau lleol o bob rhan o'r rhanbarth. Mae’n rhan o'r wefan Iechyd Emosiynol, Lles a Gwydnwch – https://llesgogledd.cymru/

Mae chwarae allan yn rhan hanfodol o blentyndod hapus ac iach – a gall mentro allan yn amlach gynnig manteision enfawr o ran iechyd a lles. Mae'n annog plant i symud mwy, yn sbarduno eu chwilfrydedd, ac yn cynnig cyfle iddynt archwilio, dychmygu a chysylltu â'r byd o'u cwmpas.

Mae chwarae’r tu allan hefyd yn helpu i fagu hyder a gwytnwch, a gall mynd allan i chwarae gyda’n gilydd gryfhau cysylltiadau rhwng aelodau teulu. Ac yma yng Nghonwy ceir cymaint o lefydd y gallwn eu mwynhau yn rhad ac am ddim, neu heb dalu fawr ddim.

Felly, dewch i ni sicrhau y bydd Wythnos Iechyd Meddwl Plant a’r gwyliau’r hanner tymor nesaf yn gyfle i symud, cysylltu â natur, a mwynhau chwarae’n egnïol gyda'n gilydd. Trowch at wefan Archwilio’r Tu Allan i ganfod manylion meysydd chwarae, parciau a mannau yn yr awyr agored y bydd eich plant wrth eu bodd â nhw.

Rhywfaint o gynghorion gan arweinwyr chwarae

  • Gadewch i'r plant bennu’r patrwm  – bydd y plant lleiaf yn ffynnu pan allant ddefnyddio eu dychymyg a dewis sut i chwarae eu hunain
  • Lapiwch yn gynnes ac ewch allan, beth bynnag yw'r tywydd – hyd yn oed ar ddiwrnodau oerach neu lawog, bydd chwarae’r tu allan yn helpu plant i losgi rhywfaint o egni mewn ffordd iach
  • Y gemau syml yw’r rhai difyrraf yn aml – bydd gemau tic a chwarae mig yn peri iddynt fod yn chwerthin ac yn rhedeg o gwmpas mewn dim o dro
  • Gwahoddwch ffrindiau a pherthnasau i fynd gyda chi - bydd cysylltu â phobl eraill yn rhoi hwb i'w hwyliau ac yn eu cymell
  • Sylwch ar natur - tra byddwch allan, manteisiwch ar gyfleoedd i ganfod adar, coed neu newidiadau yn y tymhorau i helpu i blant gysylltu â'r byd o'u cwmpas

 

Ynglŷn ag Wythnos Iechyd Meddwl Plant a gwefan Archwilio'r Tu Allan

 Caiff Wythnos Iechyd Meddwl Plant ei chynnal gan elusen iechyd meddwl plant Place2Be rhwng 9 a 15 Chwefror. Eleni, nod y digwyddiad yw rhoi hwb i'r ymdeimlad hanfodol o berthyn a deimlir gan blant a phobl ifanc. Dyma Fy Lle I yw thema’r wythnos.

Gall archwilio mannau chwarae newydd gydag anwyliaid helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a'u hannibyniaeth, dysgu rhagor am eu teulu, eu cymdogion a'u cymuned, a theimlo cysylltiad â’u cynefin.

Mae Archwilio’r Tu Allan yn gyfeiriadur chwiliadwy sy’n cynnig manylion lleoedd i chwarae sy’n addas i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Fe'i datblygwyd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant  ochr yn ochr â swyddogion chwarae awdurdodau lleol o bob rhan o'r rhanbarth. Mae’n rhan o'r wefan Iechyd Emosiynol, Lles a Gwydnwch Hafan | Iechyd Emosiynol, Lles a Gwydnwch.

 

Wedi ei bostio ar 11/02/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content