Paratoi ar gyfer y gaeaf

Cerbyd graeanu
Dydyn ni ddim yn disgwyl eira ym mis Medi, ond peidiwch â synnu os gwelwch gerbyd graeanu o gwmpas y lle – mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal hyfforddiant i yrwyr ac yn ymgyfarwyddo â’r llwybrau ar draws y Sir.
Ydych chi’n barod am y gaeaf? Gall tywydd garw achosi amhariad i'n bywydau bob dydd. Byddwch yn ymwybodol o’r tywydd a byddwch yn barod i weithredu Bod yn Barod am Argyfyngau - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Hefyd, Mis Medi yw Mis Paratoi. Mae amddiffyn eich teulu, gan gynnwys plant ac anifeiliaid anwes yn ystod argyfyngau yn golygu cynllunio rhagweithiol a datblygu sgiliau hanfodol.
Mae Cofrestr Risgiau Cymunedol ledled Gogledd Cymru sy’n dangos y prif beryglon i ddiogelwch y cyhoedd a beth fedrwch chi ei wneud i helpu mewn argyfwng. Gwiriwch sut y gallwch chi baratoi ar gyfer argyfwng, gan gynnwys tywydd garw, yma: north-wales-community-risk-register-january-2025
Wedi ei bostio ar 17/09/2025