Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Prosiect celfyddydau cymunedol arloesol yn darparu manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol ar draws Conwy a Sir Ddinbych

Prosiect celfyddydau cymunedol arloesol yn darparu manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol ar draws Conwy a Sir Ddinbych


Summary (optional)
start content

Prosiect celfyddydau cymunedol arloesol yn darparu manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol ar draws Conwy a Sir Ddinbych

Rhaglen gelfyddydau ac iechyd arloesol

Rhaglen gelfyddydau ac iechyd arloesol

Mae rhaglen gelfyddydau ac iechyd arloesol a gyflwynir ar y cyd trwy bartneriaeth rhwng Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL), Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi dangos manteision sylweddol ar gyfer lles meddwl wrth gynhyrchu enillion cymdeithasol trawiadol ar fuddsoddiad.

Rhedodd ‘Ymbarél yn Erbyn y Glaw’, a ariannwyd gan Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd, rhwng Mai 2025 a Mawrth 2026 ar draws Conwy a Sir Ddinbych. Daeth y prosiect 10 mis â 161 o gyfranogwyr ynghyd a oedd yn profi heriau iechyd meddwl, a gymerodd ran mewn amrywiaeth o weithgareddau creadigol gan gynnwys celfyddydau gweledol, cerddoriaeth, dawns a chanu. Yn ogystal, cymerodd staff o’r sefydliadau partner, ochr yn ochr ag artistiaid llawrydd, ran mewn sesiynau lles a hyfforddiant arbenigol yn canolbwyntio ar greadigrwydd ac iechyd meddwl.

Dangosodd canfyddiadau'r gwerthusiad annibynnol o’r Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad fod y prosiect wedi cynhyrchu £5.66 o werth cymdeithasol am bob £1 a fuddsoddwyd, gan amlygu effaith gadarnhaol dulliau seiliedig ar y celfyddydau ar gyfer lles ac atal.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL, “Wrth i’r galw am gymorth iechyd meddwl hygyrch barhau i dyfu, mae prosiectau fel ‘Ymbarél yn Erbyn y Glaw’ yn darparu enghraifft gymhellol o sut y gall y celfyddydau nid yn unig gyfrannu at gymunedau iachach, ond hefyd ddarparu manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol i wasanaethau cyhoeddus, partneriaid a’r cyhoedd ehangach. Mae DLL yn falch o fod wedi bod yn rhan o brosiect mor llwyddiannus, a ddangosodd yn glir yr effaith drawsnewidiol y gall ymgysylltu creadigol ei chael ar unigolion a chymunedau.”

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, Aelod Cabinet Conwy dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Llywodraethu, “Mae’r fenter hon wedi bod yn enghraifft ardderchog o weithio mewn partneriaeth. Rwy’n falch iawn bod y prosiect wedi cyrraedd cymunedau ar draws y ddwy sir, gan gynnwys ardaloedd gwledig fel Betws y Coed. Mae’n dangos sut y gall gweithgareddau lles sy’n seiliedig ar y celfyddydau, a ddarperir yn lleol, gefnogi atal ac ymyrraeth gynnar mewn iechyd meddwl - gan leihau’r pwysau ar ein gwasanaethau statudol ac yn bwysig helpu pobl i ailgysylltu â’u cymunedau trwy greadigrwydd.”

Dangosodd canfyddiadau'r gwerthusiad ystod o ganlyniadau cadarnhaol, dywedodd un cyfranogwr: "Mae wedi bod yn rhywbeth da i edrych ymlaen ato mewn cyfnod anodd iawn yn fy mywyd. Rwyf wedi mwynhau'r cysylltiad â natur ac effaith dawelu'r gweithgareddau. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd digwyddiadau eraill fel hyn y gallaf fynychu."

Nododd 83% o'r cyfranogwyr eu bod yn teimlo'n llai unig ac ynysig, profodd 79% well hunan-barch a dysgodd 76% ffyrdd newydd o reoli eu hiechyd meddwl. Mae'r canfyddiadau hyn yn ychwanegu at gorff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos y gall ymyriadau sy'n seiliedig ar y celfyddydau wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a bod ganddynt y potensial i leihau pwysau ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Wedi ei bostio ar 17/08/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content