Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Dweud eich Dweud ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd Conwy i'w Archwilio gan y Cyhoedd

Dweud eich Dweud ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd Conwy i'w Archwilio gan y Cyhoedd


Summary (optional)
start content

Dweud eich Dweud ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd Conwy i'w Archwilio gan y Cyhoedd

Replacement Local Development Plan

Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi ei Gynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) i’w Archwilio gan y Cyhoedd, ac mae’n gwahodd preswylwyr, busnesau a budd-ddeiliaid i rannu eu barn.

Mae’r CDLlN yn ddogfen cynllunio allweddol sy’n nodi lle bydd cartrefi newydd, safleoedd cyflogaeth a mannau gwyrdd yn cael eu lleoli ar draws Sir Conwy (ac eithrio ardal Parc Cenedlaethol Eryri).

Bydd yn llywio datblygiad yn ardal y cynllun hyd at 2033, gan ddisodli’r Cynllun Datblygu Lleol presennol.

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn agor heddiw (12 Ionawr 2026).

Sut i gymryd rhan:

Ar-lein: Ewch i Cynllun Datblygu Lleol Newydd  i ddarllen y cynllun a chyflwyno eich sylwadau.

Wyneb yn wyneb: Mae copïau caled ar gael mewn llyfrgelloedd lleol.

Sesiynau Galw Heibio: Dewch i gwrdd â’r tîm a gofyn cwestiynau yn un o’n sesiynau.

  • Dydd Gwener 30 Ion:      Eglwys Fethodistaidd Hen Golwyn, 10am-7pm.
  • Dydd Mercher 4 Chwe:   Llyfrgell Abergele, 1:30pm-7pm
  • Dydd Llun 9 Chwe:           Neuadd Hen Ysgol Llanrhos, 3pm-7pm.
  • Dydd Mercher 11 Chwe: Neuadd Hen Ysgol Llanrhos, 10am-2pm.
  • Dydd Mercher 18 Chwe: Glasdir Llanrwst, 10am-7pm.
  • Dydd Mercher 25 Chwe: Neuadd y Dref Llanfairfechan, 10am-7pm.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Cater, Aelod Cabinet Cyllid a Chynllunio Strategol: “Fe gyflwynais y CDLlN i’w archwilio gan y cyhoedd i’r Cyngor Llawn ym mis Gorffennaf a’r ymgynghoriad dwyieithog, statudol hwn yw’r cam hanfodol nesaf yn y broses o fabwysiadu’r cynllun. Rydym wedi ymestyn y cyfnod a nodwyd 2 wythnos. Ein canolbwynt yw dull cadarnhaol i ymgysylltu â’r gymuned gan gynnwys targedu grwpiau gwarchodedig yn benodol. Prif nod y CDLlN yw cyfrannu tuag at ddarparu datblygiad cynaliadwy a gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Conwy. Bydd yn siapio ein cymunedau yn y blynyddoedd i ddod, felly rwy’n annog pawb i gymryd y cyfle hwn i gymryd rhan.”

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 8 Mawrth 2026.

Bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad yn cael ei adolygu a’i gyflwyno trwy broses ddemocrataidd y Cyngor yng Ngwanwyn 2026.

Gofynnir i Gynghorwyr gefnogi’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd i’w Archwilio gan y Cyhoedd. 

Yna bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru - Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru ar gyfer Archwiliad Annibynnol.

 

Cefndir: 
Mae’n ofynnol i holl awdurdodau lleol baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer eu hardal.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi datblygu Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) ar gyfer y Sir i gwmpasu’r cyfnod o 2018 i 2033.

Mae’r CDLlN wedi esblygu trwy nifer o gamau cynllunio allweddol ers dechrau’r broses yn 2018. Mae mwy o wybodaeth yn Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

Wedi ei bostio ar 12/01/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content