Cymerwch gyfle i ddweud eich dweud am ddyfodol trafnidiaeth, tai a swyddi yng Nghymru

Dweud eich dweud
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o adolygiad mawr o'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.
Dyma'ch cyfle i roi eich barn ar sut y dylid cynllunio a rheoli lleoedd, cymunedau, seilwaith ac adnoddau naturiol drwy'r system gynllunio yng Nghymru.
Manylion y digwyddiad:
- Dydd Iau 22 Hydref a Dydd Gwener 23 Hydref.
- Venue Cymru, Promenade, Llandudno, LL30 1BB.
- Dydd Iau 22 Hydref 6pm-8pm a Dydd Gwener 23 Hydref 12pm-2pm.
Gallwch alw heibio unrhyw bryd. Cofrestrwch eich diddordeb mewn mynychu gan ddefnyddio'r ffurflen mynegi diddordeb, a rhowch wybod i ni am eich cwestiynau ymlaen llaw: 1. Sesiynau galw heibio cyhoeddus - Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: sesiynau galw heibio cyhoeddus
Os na allwch fynychu digwyddiad cyhoeddus, gallwch ymateb i'r ymgynghoriad ar-lein cyn iddo ddod i ben ar 20 Tachwedd 2026.
Peidiwch â cholli'r cyfle i ymateb.
Dysgwch fwy ac ymatebwch yn www.llyw.cymru/fframwaith-datblygu-cenedlaethol
Wedi ei bostio ar 15/10/2026