Rhowch eich barn i helpu i wneud Conwy yn gymuned sy'n gyfeillgar i oed

8 Maes Cysylltiedig o Fywyd Trefol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mewn partneriaeth ag Age Connects a holl aelodau’r Rhwydwaith Budd-ddeiliad Cyfeillgar i Oed, yn gweithio tuag at gydnabyddiaeth swyddogol gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), fel sir sy’n gyfeillgar i oed.
Mae ‘Fframwaith Dinasoedd sy’n Gyfeillgar i Oed’ WHO yn fenter fyd-eang i helpu cymunedau ddileu rhwystrau a gwella ansawdd bywyd y boblogaeth sy’n heneiddio. Mae’r gwaith hwn yn cefnogi strategaeth ‘Cymru o Blaid Pobl Hŷn’ Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Mae cymunedau sy'n gyfeillgar i oed yn cefnogi pobl i fyw bywydau iach, egnïol, cysylltiedig ar bob oed. Maen nhw’n creu cyfleoedd i unigolion gael y wybodaeth ddiweddaraf ac i ymgysylltu’n gymdeithasol, i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, i aros yn annibynnol a chael llais.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwahodd preswylwyr i gwblhau arolwg i helpu i siapio dyfodol heneiddio’n iach yn Sir Conwy. Bydd eich adborth yn cefnogi cais y Cyngor i ddod yn gymuned gyfeillgar i oed cofrestredig WHO.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Hawkins, Cefnogwr o Blaid Pobl Hŷn Conwy: “Mae llais pawb yn bwysig. Rydym yn annog pobl o bob oed i rannu eu safbwyntiau, profiadau a syniadau fel y gallwn adeiladu cymuned ble mae pawb yn cael y cyfle i heneiddio’n dda.”
“Mae’r fenter hon yn dibynnu ar breswylwyr, sefydliadau a busnesau yn gweithio gyda’i gilydd i’w gwneud yn haws i bawb ffynnu wrth iddynt dyfu’n hŷn.”
Cwblhewch yr arolwg ar-lein: https://online1.snapsurveys.com/kaqja neu mae copïau papur ar gael yn holl lyfrgelloedd Conwy.
Wedi ei bostio ar 23/07/2025