Helpwch i siapio sut mae Conwy yn symud! Sesiynau galw heibio i'r cyhoedd

Teithio Llesol
Rydym yn adolygu'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol i helpu i wneud cerdded, defnyddio cymhorthion symudedd a beicio yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy hygyrch ar gyfer teithiau bob dydd ledled y sir.
Sesiynau galw heibio i’r cyhoedd:
19 Hydref, 12pm - 5pm: Llyfrgell Llandudno, Mostyn Street, LL30 2RP
20 Hydref, 9am - 12pm: Eglwys Fethodistaidd Hen Golwyn, Wynn Ave, LL29 9RF
20 Hydref, 12pm - 3pm: Neuadd Ni, Rose Hill St, Conwy LL32 8LD
21 Hydref, 9am - 12pm: Llyfrgell Llanrwst, Glasdir, Plas yn Dre, LL26 0DF
21 Hydref, 2pm - 5pm: Llyfrgell Bae Cinmel, Canolfan Gymuned, Kendal Road, LL18 5BT
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Ymgynghoriad Map Rhwydwaith Teithio Llesol 2026 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 16/10/2026