Helpwch i lunio dyfodol ein Sir

Sgwrs Y Sir
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych wedi lansio dau arolwg yn ddiweddar i geisio barn pobl am Sir Conwy a’u blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd yr atebion yn cael eu defnyddio i lunio asesiad lles y sir ac yn helpu i hysbysu gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Meddai’r Prif Weithredwr, Rhun ap Gareth:
“Rydym eisiau gweithio gyda’n cymunedau i helpu i’w gwneud yn gryfach ac yn fwy gwydn - ac mae hynny’n dechrau trwy wrando. Trwy gymryd rhan yn yr arolwg, gall pobl Sir Conwy helpu i siapio’r dyfodol a dylanwadu’r ffordd rydym yn gweithio. Hoffwn annog pawb i gymryd rhan a rhannu eu barn.”
Dilynwch y ddolen yma i gwblhau’r arolygion: Asesu Lles ein Sir a Sgwrs Y Sir 2026.
Mae’r arolygion ar agor nawr a bydd yn cau ar ddydd Gwener, 31 Gorffennaf 2026.
Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, gallwch gael copi papur yng Nghoed Pella neu yn eich llyfrgell leol. Mae’r arolwg hwn ar gael mewn fformatau eraill ar gais trwy gysylltu â SgwrsYSir@conwy.gov.uk.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gyfer: Helpwch i lunio dyfodol ein Siroedd yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
Mae’r arolygon yn ddienw ac yn cymryd tua deg munud i’w cwblhau
Mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg
Mae’r arolygon ar gael mewn fformatau eraill ar gais
Yn ogystal â manylion yr ymgyngoriadau ynghylch yr Asesiad o Les ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych ar y wefan Helpwch i lunio dyfodol ein Siroedd yng Nghonwy a Sir Ddinbych, ceir ychwaneg o fanylion am Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a’r Asesiad o Les yma: Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â sgwrsysir@conwy.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 17/06/2026