Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Helpwch ni i gadw ein traethau'n ddiogel a glân

Helpwch ni i gadw ein traethau'n ddiogel a glân


Summary (optional)
start content

Helpwch ni i gadw ein traethau'n ddiogel a glân

BBQ alert

Meddyliwch ddwywaith cyn defnyddio barbeciw untro

Meddyliwch ddwywaith cyn defnyddio barbeciw untro, a defnyddiwch nhw mewn ardaloedd gydag arwyddion sy’n eich caniatáu yn unig. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwahardd barbeciws heb eu hawdurdodi a thanau agored ar ein traethau ac mewn mannau cyhoeddus. Rydym yn deall fod rhai pobl yn anwybyddu’r rheolau sydd mewn grym er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Neges gan dîm yr Harbwr:

Mae barbeciwiau untro yn arwain at beryglon difrifol a chudd ar ein traethau. Y perygl mwyaf difrifol yw’r perygl o losgiadau difrifol. Mae tywod yn gweithredu fel ynysydd gan gaethiwo gwres dwfn am oriau neu dros nos. Wrth iddynt gael eu claddu, mae’r barbeciwiau hyn yn creu trapiau tanbaid anweledig sydd wedi anafu oedolion, plant ac anifeiliaid yn ddifrifol.

Mae’r peryglon sylweddol a’r effeithiau negyddol yn cynnwys:

  • Tywod tanbaid cudd: Gall tywod aros yn boeth am gyfnod hir wedi i’r fflamau ymddangos fel pe baent wedi diffodd. Mae cerdded dros neu gamu ar farbeciwiau sydd wedi eu claddu neu eu taflu yn achosi anafiadau difrifol sy’n para.
  • Archolliadau difrifol: Unwaith y maent wedi oeri gall ymylon metel miniog yr hambyrddau sydd wedi eu taflu achosi toriadau dwfn ac anafiadau i’r tendonau ar draed noeth. 
  • Tanau bin tocsig: Mae taflu barbeciw untro sy’n mudlosgi i finiau sbwriel arferol yn toddi’r plastig ac yn achosi tanau.
  • Niwed i’r ecosystem: Gall siarcol sydd wedi ei daflu ryddhau cemegau tocsig i’r tywod ac mae sbarion bwyd yn denu bwyd gwyllt sy’n chwilio am fwyd.
  • Tanau gwyllt dros ardal helaeth: Gall gwreichion sy’n cael eu cludo gan wyntoedd arfordirol gynnau twyni sych, glaswellt neu adeileddau gerllaw yn hawdd.

Arferion i sicrhau diogelwch wrth gael barbeciw ar y traeth

  1. Peidiwch byth â chladdu’r barbeciw. Gadewch iddo losgi’n llwyr ar arwyneb wedi ei godi sy’n anfflamadwy.
  2. Diffoddwch yn llwyr.Tywalltwch ddigon o ddŵr dros y glo i sicrhau fod y gwres wedi ei ladd yn llwyr.
  3. Arhoswch i’r hambwrdd oeri’n llwyr cyn mynd ag ef adref i’w waredu.
Wedi ei bostio ar 26/06/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content