Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Sioe Deithiol Yma i Wrando ym Mae Cinmel

Sioe Deithiol Yma i Wrando ym Mae Cinmel


Summary (optional)
start content

Sioe Deithiol Yma i Wrando ym Mae Cinmel

Here to Listen 1920x1080 - Jenny

Sioe Deithiol Yma i Wrando

Mae’r Cynghorydd Julie Fallon, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi’r sesiwn Yma i Wrando nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon: “Mae’r sesiynau hyn yn rhoi’r cyfle i bobl yn y gymuned siarad yn uniongyrchol gyda mi a’r Prif Weithredwr Dros Dro. Bydd pobl yn cael clywed ychydig ynglŷn â’r hyn mae’r Cyngor yn ei wneud ond, yn bwysicach, mae’n gyfle i ofyn cwestiynau neu gynnig awgrymiadau, efallai.”

“Diolch i bawb a fu’n bresennol yn y sesiwn ddiwethaf yn Llanfairfechan. Roedd yn gyfle gwerthfawr i ddod at ein gilydd a rhannu syniadau, ac rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â phawb ym Mae Cinmel.”

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys cyflwyniad rhagarweiniol gan yr Arweinydd, yna sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa.

Dyma sesiwn nesaf Yma i Wrando:

�� Canolfan Gymunedol Bae Cinmel, Ffordd y Foryd, LL18 5BT
�� 13 Hydref 2026
�� 6:30pm – 7:30pm
��️ Archebwch eich lle neu dewch draw ar y noson: https://bit.ly/3Vbzucr 

Wedi ei bostio ar 01/10/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content