Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Here to Listen Roadshow in Llanfairfechan

Sioe Deithiol Yma i Wrando yn Llanfairfechan


Summary (optional)
start content

Sioe Deithiol Yma i Wrando yn Llanfairfechan

Here to Listen Roadshow

Sioe Deithiol Yma i Wrando

Mae’r Cynghorydd Julie Fallon, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi’r sesiwn Yma i Wrando nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon: “Mae’r sesiynau hyn yn rhoi’r cyfle i bobl yn y gymuned siarad yn uniongyrchol gyda mi a’r Prif Weithredwr. Bydd pobl yn cael clywed ychydig ynglŷn â’r hyn mae’r Cyngor yn ei wneud ond, yn bwysicach, mae’n gyfle i ofyn cwestiynau neu gynnig awgrymiadau, efallai.”

"Diolch i bawb a dreuliodd eu hamser yn mynychu’r sesiwn fis diwethaf ym Mae Colwyn. Roedd yn gyfle gwerthfawr i ddod at ein gilydd a rhannu syniadau, ac rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â phawb yn Llanfairfechan."

Sesiwn Yma i Wrando Llanfairfechan:

Dyddiad: 21 Gorffennaf 2026

Lleoliad: Neuadd Gymunedol Llanfairfechan, Village Road, LL33 2AB

Amser: 7.30 - 8.30pm

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys cyflwyniad rhagarweiniol gan yr Arweinydd, yna sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa.

Archebwch eich lle yn Sioe Deithiol Yma i Wrando Llanfairfechan Here to Listen Roadshow  neu dewch draw ar y noson.

Trefnir y sesiynau nesaf ar gyfer Bae Cinmel, Llanrwst a Llandudno.

Wedi ei bostio ar 06/07/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content