Sioe Deithiol Yma i Wrando

Sioe Deithiol Yma i Wrando
*DIWEDDARIAD:
Gan ein bod ni wedi cael ymateb gwych ac mai hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, byddwn yn defnyddio system docynnau i wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle teg.
I archebu lle yn y sesiwn Yma i Wrando ar 9 Mehefin yn Neuadd y Dref Bae Colwyn ewch i: Sioe Deithiol Yma i Wrando / Here to Listen Roadshow Tickets, Tuesday, June 9 • 6 PM - 7 PM | Eventbrite
Os nad ydych chi ar-lein, ffoniwch 01492 576065 i gadw’ch lle.
Os nad ydych chi’n cael lle tro ‘ma, peidiwch â phoeni, hwn yw digwyddiad cyntaf y sioe deithiol ac felly bydd rhagor o gyfleoedd yn fuan.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi.
............................
Fis nesaf, bydd y Cynghorydd Julie Fallon, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn lansio cyfres o sesiynau Yma i Wrando ledled y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon: “Mae’r sesiynau hyn yn rhoi’r cyfle i bobl yn y gymuned siarad yn uniongyrchol gyda mi a’r Prif Weithredwr. Bydd pobl yn cael clywed ychydig ynglŷn â’r hyn mae’r Cyngor yn ei wneud, ond, yn bwysicach, mae’n gyfle i ofyn cwestiynau neu gynnig awgrymiadau, efallai.”
“Bydd y sesiwn gyntaf yn Neuadd y Dref, Bae Colwyn, ar Rhiw Road ar 9 Mehefin. Edrychaf ymlaen at gael cyfarfod pawb.”
Manylion sesiwn gyntaf Yma i Wrando:
Dyddiad: 9 Mehefin 2026
Lleoliad: Neuadd Tref Bae Colwyn, Rhiw Road, Bae Colwyn, LL29 7TE
Amser: 6-7pm
Bydd y sesiwn hon yn cynnwys cyflwyniad rhagarweiniol gan yr Arweinydd, yna sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa.
Mae lleoedd yn brin, felly’r cyntaf i’r felin gaiff falu. I archebu lle ewch i: Sioe Deithiol Yma i Wrando / Here to Listen Roadshow Tickets, Tuesday, June 9 • 6 PM - 7 PM | Eventbrite
Trefnir y sesiynau nesaf ar gyfer Bae Cinmel, Llanfairfechan, Llanrwst a Llandudno.
Wedi ei bostio ar 21/05/2026