Cartref Newyddion Eitemau newyddion Sioeau Teithiol Yma i Wrando yn Llanrwst a Llandudno
start content

Sioeau Teithiol Yma i Wrando yn Llanrwst a Llandudno

Here to Listen 1920x1080 - Jenny

Sioeau Deithiol Yma i Wrando

Mae’r Cynghorydd Julie Fallon, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi’r sesiwn Yma i Wrando nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon: “Mae’r sesiynau hyn yn rhoi’r cyfle i bobl yn y gymuned siarad yn uniongyrchol gyda mi a’r Prif Weithredwr Dros Dro. Bydd pobl yn cael clywed ychydig ynglŷn â’r hyn mae’r Cyngor yn ei wneud ond, yn bwysicach, mae’n gyfle i ofyn cwestiynau neu gynnig awgrymiadau, efallai.”

"Diolch i bawb a dreuliodd eu hamser yn mynychu’r sesiwn ddiwethaf ym Mae Cinmel. Roedd yn gyfle gwerthfawr i ddod at ein gilydd a rhannu syniadau, ac rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â phawb yn Llanrwst a Llandudno."

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys cyflwyniad rhagarweiniol gan yr Arweinydd, yna sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa.

Bydd y sesiynau Yma i Wrando nesaf yn:

Lleoliad:  Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, LL26 0DF
Dyddiad: 10 Tachwedd
Amser: 6:30pm – 7:30pm
Archebwch eich lle neu dewch draw ar y noson: https://bit.ly/4zM58Mp


Lleoliad: Neuadd y Dref Llandudno, Lloyd Street, LL30 2UP
Dyddiad: 17 Tachwedd
Amser: 6:30pm – 7:30pm
Archebwch eich lle neu dewch draw ar y noson: https://bit.ly/3UHMRRy

Wedi ei bostio ar 23/10/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content