Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ymgynghoriad Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol ar y gweill

Ymgynghoriad Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol ar y gweill


Summary (optional)
start content

Ymgynghoriad Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol ar y gweill

Dyddiad cau wedi’i ymestyn: 04/04/24.

Mae ymgynghoriad ar gludiant dewisol o’r cartref i’r ysgol yng Nghonwy yn dechrau heddiw (01/02/24).

Mae Gwasanaeth Addysg Conwy yn gofyn i bobl am eu barn am drefniadau dewisol (anstatudol), gan gynnwys: cludiant i ysgolion enwadol; cludiant ysgol i blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr o fewn y pellter statudol; parhad cwrs yn dilyn newid cyfeiriad; preswyliad deuol; a chludiant ôl-16.

Nid yw cludiant statudol* o'r cartref i'r ysgol yn rhan o'r adolygiad a bydd yn parhau heb ei newid.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, yr Aelod Cabinet dros Addysg, “Yn gyffredinol, mae cludiant ysgol yn cael ei gyfrif yn un o’r costau sy’n tyfu gyflymaf yng nghyllidebau blynyddol awdurdodau lleol. Oherwydd hynny, mae’n bwysig ein bod yn adolygu’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu.”

“Fe fyddwn i’n annog dysgwyr, rhieni, llywodraethwyr a phobl eraill sydd â diddordeb i gymryd rhan a rhoi eich barn i ni.”

Mae’r wybodaeth a’r arolwg ar gael ar wefan Conwy ar: www.conwy.gov.uk/ymgynghoriadcludiantysgol

Os nad ydych ar-lein, gallwch gael copi papur o dderbynfa Coed Pella neu ffonio 01492 575595.

Cyflwynwch eich barn erbyn 04/04/24.

Bydd canlyniadau'r adolygiad a'r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i gynghorwyr yn ddiweddarach i'w hystyried.

 

*Cludiant statudol o'r cartref i'r ysgol: Rhaid i Awdurdodau Lleol ddarparu cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy’n mynychu ysgol gynradd sy’n byw 2 filltir neu fwy o’u hysgol addas agosaf, ac i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy’n mynychu ysgol uwchradd sy’n byw 3 milltir neu fwy o’u hysgol addas agosaf.

Wedi ei bostio ar 01/02/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content