Nifer cynyddol o gartrefi LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Hannah a Betty
Mae gofalwyr maeth LHDTC+ yn gyfran llawer mwy o’r gofalwyr yng Nghymru, yn ôl ffigurau newydd.
Mae yna 56 o gartrefi LHDTC+ yng Nghymru, cynnydd o 30% o'i gymharu â 2024.
Yn ystod yr Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ hon, sy'n dechrau ar 2ail Mawrth, mae Maethu Cymru Conwy yn annog pobl LHDTC+ i ystyried gwneud ymholiadau i ddod yn ofalwyr maeth a newid bywydau yn 2026.
Yng Nghonwy ar hyn o bryd mae tua 240 o blant mewn gofal maeth. Gall cyplau neu bobl sengl faethu, ac mae gan nifer o bobl LHDTC+ brofiad bywyd personol unigryw i'w gynnig i ofal plant a phobl ifanc.
Mae Hannah a Betty wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol yng Nghonwy ers 2024. Pan wnaethant gyfarfod, daeth maethu’n freuddwyd gan y ddwy a dechreuon nhw’r broses o ddod yn ofalwyr maeth cyn i Betty droi’n 21 oed. O’r eiliad honno ymlaen, newidiodd popeth. Roedd yr hyn a fwriadwyd i fod yn dymor byr yn fuan yn ffordd newydd o fyw, ac erbyn hyn ni allent ddychmygu bywyd heb faethu.
Dywedon nhw:“Mae maethu wedi bod yn hynod werth chweil ac wedi newid ein bywydau’n llwyr. Mae gweld ein plentyn maeth yn ffynnu ac yn mwynhau bywyd wedi bod yn anhygoel. Rydyn ni wedi dysgu defnyddio ein cryfderau – creadigrwydd, hoffter, ac, yn syml, pwy ydym ni – ac mae ein sgiliau fel cwpl yn ategu ei gilydd yn berffaith.
“Bydd profiad pob teulu yn wahanol, ond mae maethu wir yn newid deinameg gyfan y teulu. I unrhyw un sy’n ystyried maethu, mae’n bwysig cofio nad eich aelwyd agos yn unig fydd yn tyfu – ond eich rhwydwaith cymorth cyfan. I ni, mae hynny wedi bod yn siwrnai hyfryd, sydd wedi newid ein bywydau, ac rydyn ni mor falch ein bod wedi cymryd y cam cyntaf hwnnw. Rydyn ni wrth ein bodd.”
Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru: “Mae gofalwyr maeth yn gwneud gwahaniaeth eithriadol i blant a phobl ifanc bob dydd trwy gynnig sefydlogrwydd, dealltwriaeth a lle diogel i ffynnu. Maent yn defnyddio eu profiadau bywyd eu hunain, eu tosturi a’u gwydnwch i ddiwallu anghenion unigol pob plentyn. I rai plant, gall gofalwyr maeth eu helpu i symud tuag at fabwysiadu, a fydd yn darparu’r sicrwydd cydol oes yna sydd ei angen arnynt pan nad yw dychwelyd at eu teulu geni yn bosibl.
“Gyda chyn gymaint o blant angen cartrefi cariadus ar hyn o bryd, byddem yn annog unrhyw un sy’n ystyried maethu neu fabwysiadu i ddechrau sgwrs gyda’u tîm lleol heddiw.”
Gallwch ddilyn Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ ar-lein ac ar Twitter (@lgbtadoptfoster) a Facebook (@newfamilysocial).
Am ragor o wybodaeth am faethu yng Nghonwy ewch i: https://conwy.maethucymru.llyw.cymru/
Ynglŷn â Maethu Cymru
Maethu Cymru yw'r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol dielw yng Nghymru. Ei brif nod yw rhoi cyfle i blant aros yn lleol, ffynnu a gwella eu cyfleoedd bywyd gyda gofalwyr maeth sy'n cael eu cefnogi'n dda.
Ynglŷn â Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (GMC) yw'r cydweithrediad Cymru gyfan ar gyfer darparu gwasanaethau mabwysiadu. Mae wedi dod â gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol ynghyd i greu strwythur tair haen sy'n cynnwys partneriaethau ar bob lefel gydag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol Cymru, gwasanaethau iechyd ac addysg, yn ogystal ag eraill.
Ynglŷn â New Family Social
New Family Social yw elusen cymorth i gyfoedion y DU ar gyfer mabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDTC+.
Wedi ei bostio ar 02/03/2026