Buddsoddiad o £800,000 i Adfer Colonâd Hanesyddol Llandudno

Y colonâd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi y bydd colonâd hanesyddol Llandudno yn cael ei adfer diolch i fuddsoddiad o £800,000 drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a phrosiect Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru.
Mae’r rhodfa gysgodol 170 metr, sydd mewn lle blaenllaw yn Llandudno yn edrych dros y bae, y pier Fictoraidd a’r promenâd, yn ased diwylliannol pwysig. Fodd bynnag, mae adroddiad adeileddol diweddar wedi datgelu dirywiad sylweddol, gan beryglu dyfodol y colonâd heb ymyrraeth brys.
Mae’r gwaith yn dechrau ar 8 Medi, gyda chontractwr lleol, Jennings, wedi’i benodi i adfer y colonâd.
Yn ystod y gwaith bydd angen cau Alex Munro Way a bydd dargyfeiriad i fynd i fyny at y llethr sgio ac ar gyfer cerbydau danfon nwyddau i fusnesau eraill. Caniateir mynediad i gerddwyr.
Bydd y prosiect hanfodol hwn yn gwneud atgyweiriadau adeileddol sylweddol i’r colonâd er mwyn ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r gwaith yn cynnwys:
- Atgyfnerthu adeileddol a dal dŵr
- Haen gwrth-garbonadu
- Adfer a/neu newid y balwstradau haearn a dur
- Gwella draenio
- Gosod pŵer a goleuadau
- Seti a phaneli dehongli
- Tag HistoryPoints gyda dehongliad llafar ac Iaith Arwyddo Prydain
Bydd y gwelliannau hyn yn diogelu’r adeiledd yn ogystal â gwella profiadau ymwelwyr, gan sicrhau bod y colonâd yn dal yn rhan fywiog a hygyrch o lan y môr Llandudno.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cyfrannu £500,000 at y prosiect.
Mae Cronfa Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £300,000 at y prosiect.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw gwella balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy
Wedi ei bostio ar 05/09/2025