Trosglwyddo'r allweddi yn nodi'r cam olaf

Mae'r Cyngor wedi trosglwyddo allweddi Bodlondeb i Quidos Investments Limited
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi trosglwyddo allweddi Bodlondeb i Quidos Investments Limited yn swyddogol.
Dyma gwblhau rhaglen y Cyngor i leihau nifer y swyddfeydd o 18 i 1, gan ddod â’r holl wasanaethau swyddfa a swyddogaethau democratiaeth dan un to.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Charlie McCoubrey: “Mae’n bleser mawr cael trosglwyddo allweddi’r adeilad hardd yma. Rydym ni wedi gallu gwneud y penderfyniad i symud i un swyddfa yn gwybod bod dyfodol cynaliadwy a chyffrous i adeilad Bodlondeb, a fydd yn cynnig cyfleoedd datblygu economaidd i dref Conwy a’r ardal ehangach.
“Hoffaf ddymuno pob llwyddiant i Quidos Investments Limited a’r Ideas Forum.”
Ar 30 Mai 2025 llofnododd Quidos Investments Limited brydles 250 o flynyddoedd ar gyfer Bodlondeb.
Meddai Nick Pritchard, Cyfarwyddwr Quidos Investments Limited a’r Ideas Forum: “Ni allaf ddweud nad wyf yn nerfus am gymryd cyfrifoldeb dros adeilad mor fawreddog, ond fel ceidwad nesaf y dreftadaeth yma byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gynnal ei gwychder a’i gwneud yn weithle bywiog a chyffrous. I’r dyfodol, bydd Bodlondeb yn dod â chyfleoedd cyflogaeth i economi Conwy a dw i’n edrych ymlaen at gwrdd a siarad gydag entrepreneuriaid lleol sydd eisiau lle yn yr adeilad – a phwy a ŵyr, efallai y byddwn ni’n canfod ‘Alun Siwgr’ newydd Cymreig.”
Meddai’r Athro Dylan Jones-Evans, Cyd-Sylfaenydd Ideas Forums: “Ynghyd â’m cyd-gyfarwyddwyr Frankie James a Nick Pritchard, dw i’n falch iawn o gymryd yr her hon i roi hwb i entrepreneuriaeth nid nepell oddi wrth fro fy mebyd. Drwy’r fenter hon byddwn yn darparu gofodau swyddfa a chydweithio, gan gynnig desgiau am ddim i entrepreneuriaid ifanc a chefnogaeth a mynediad at gyllid i helpu busnesau newydd i lwyddo.
“Mae hon yn fwy na chanolfan fusnes, mae’n fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol gogledd Cymru, wedi’i ddylunio i gadw talent leol, sbarduno arloesedd a chreu economi rhanbarthol mwy cynaliadwy a deinamig.”
Os hoffech chi drafod syniadau posib neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu cartref newydd i’ch busnes ym Modlondeb, ewch i https://ideasinvest.scoreapp.com/
Nodiadau:
Mae Quidos Investments Ltd yn eiddo i Nick Pritchard, un o gyfarwyddwyr Ideas Forums Ltd. Ideas Forums Ltd fydd yn gyfrifol am reoli datblygiad Bodlondeb fel canolfan fusnes mewn cytundeb â Quidos.
Rhoddodd y Cynghorwyr eu cymeradwyaeth derfynol i symud yr holl wasanaethau swyddfa a democrataidd i un lleoliad yng Nghoed Pella yng nghyfarfod y Cyngor ar 5 Rhagfyr.
Nid yw coetir Bodlondeb, y gofeb ryfel, y lawnt, y maes criced, y cyrtiau tennis na’r maes chwarae i blant wedi’u cynnwys yn y brydles, a byddant yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio.
Cefndir:
05/02/25: Cytundeb ar brydles Bodlondeb - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
14/08/24: Golau gwyrdd ar gyfer gwaredu Bodlondeb - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
31/07/24: Cynghorwyr yn trafod dyfodol Bodlondeb - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Penderfyniadau:
30/05/2023 - Gofod Swyddfa Rhan II - Cwmpasu’r Opsiynau - Achos Busnes Amlinellol
19/06/2023 - Gofod Swyddfa Rhan II - Cwmpasu’r Opsiynau - Achos Busnes Amlinellol
16/08/2024 - Gofod Swyddfa Rhan II - Gwaredu Swyddfeydd Bodlondeb trwy Brydles Hir a Darparu Strategaeth Un Swyddfa yng Nghoed Pella
18/11/2024 - Strategaeth Gofod Swyddfa
28/11/2024 - Gofod Swyddfa Rhan II - Cyflawni Strategaeth Un Swyddfa yng Nghoed Pella
Wedi ei bostio ar 02/06/2025