Tîm Arweinyddiaeth wedi'i Benodi ar gyfer Bwrdd Cymdogaeth Rhaglen Balchder Bro Llandudno

Rhaglen Balchder Bro
Bydd y tîm arweinyddiaeth sydd newydd ei benodi yn awr yn sbarduno datblygiad y Bwrdd Cymdogaeth, gan ddod ag amrywiaeth eang o bobl leol at ei gilydd i helpu i lunio'r Cynllun Balchder Bro.
Bydd y Bwrdd Cymdogaeth newydd yn gyfrifol am lunio a chyflawni Cynllun Balchder Bro Llandudno, sy'n cynnwys rhannau o wardiau Tudno a Mostyn. Bydd yn nodi sut y bydd £20 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU yn cael ei fuddsoddi i gyflawni gwelliannau a nodwyd gan breswylwyr yn ardal Cymdogaeth Balchder Bro.
Er mwyn sicrhau bod y bwrdd wedi'i wreiddio mewn dealltwriaeth leol wirioneddol, bu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithio mewn partneriaeth â'r Aelod Seneddol lleol, Claire Hughes AS, i nodi Cadeirydd Annibynnol newydd ar gyfer y Bwrdd Cymdogaeth. Yn dilyn proses recriwtio agored a ddenodd ddiddordeb sylweddol, mae Jim Jones wedi cael ei benodi'n Gadeirydd Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro Llandudno. Mae Jayne Black wedi’i phenodi'n Is-gadeirydd.
Dywedodd Jim Jones: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Gadeirydd Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro Llandudno. Mae'n fantais enfawr cael Jayne Black fel Is-gadeirydd. Rydym ni'n dau'n edrych ymlaen at fynd ati a gweithio'n uniongyrchol â'r gymuned i gyflawni newidiadau trawsnewidiol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i wardiau Tudno a Mostyn a chymuned ehangach Llandudno.”
Dywedodd Jayne Black: “Mae’n gyfle ardderchog i’r wardiau hyn. A minnau’n rhywun sy’n byw ac yn gweithio yn y ward, yr wyf yn edrych ymlaen at fynd ati i weithio. Rwyf wedi adnabod James ers dros 20 mlynedd a gyda'i brofiad ochr yn ochr â'r bwrdd Cymdogaeth a phreswylwyr, rwy'n awyddus i fynd ati i weithio a chyflawni gwelliannau cynaliadwy i'r ddwy ward.”
Mae gan Jim a Jayne gysylltiad agos iawn â'r gymuned leol, yn ogystal â phrofiad helaeth:
- Mae gan y Cyn-warchodfilwr Cymreig, Jim Jones, brofiad sylweddol ar lefel bwrdd. Ar hyn o bryd, ef yw Rheolwr Gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru ac mae ganddo brofiad sylweddol o ddatblygu a chyflawni cynlluniau cymdogaeth.
- Jayne Black yw rheolwr Canolfan Adnoddau Cymunedol Tŷ Hapus, sydd wedi'i lleoli yn ward Tudno. Mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yng nghanol y gymuned, gan gynnwys rhedeg banciau bwyd a banciau babis lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, Arweinydd y Cyngor: “Rydym ni wrth ein bodd yn croesawu Jim Jones yn Gadeirydd Bwrdd Cymdogaeth Llandudno, ochr yn ochr â Jayne Black yn Is-gadeirydd. Bydd eu harweinyddiaeth a'u profiad yn y gymuned yn allweddol wrth i ni gydweithio i gyflawni Rhaglen Balchder Bro Llandudno.”
Mae'r penodiadau'n dilyn penderfyniad gan y Cabinet ym mis Mawrth 2026, a ddirprwyodd awdurdod i Arweinydd y Cyngor, gan weithio ar y cyd â'r AS lleol ac wrth ymgynghori ag aelodau lleol, i ddewis y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd a goruchwylio’r gwaith o sefydlu'r Bwrdd.
Dywedodd Claire Hughes AS: “Mae Jim Jones a Jayne Black wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod y rhaglen Balchder Bro yn llwyddiant, ac i roi preswylwyr lleol wrth y llyw wrth benderfynu sut y dylid gwario £20 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU. Mae hwn yn gyfle enfawr i ran o Landudno sydd wedi cael ei anghofio am lawer rhy hir, ac yr wyf i wrth fy modd bod gennym ni dîm arweinyddiaeth mor gryf.”
Bydd y tîm arweinyddiaeth sydd newydd ei benodi yn awr yn sbarduno datblygiad y Bwrdd Cymdogaeth, gan ddod ag amrywiaeth eang o bobl leol at ei gilydd i helpu i lunio'r Cynllun Balchder Bro. Drwy gydol y broses hon bydd cyfleoedd i breswylwyr, grwpiau cymunedol a budd-ddeiliaid eraill gymryd rhan – naill ai fel aelodau o’r bwrdd neu drwy gyfrannu syniadau ac awgrymiadau drwy weithgarwch ymgysylltu ehangach.
Mewn partneriaeth â'r AS lleol, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi'r tîm arweinyddiaeth sydd newydd ei benodi i gynnull y Bwrdd Cymdogaeth, yn ogystal â gweithredu i ddechrau fel y Corff Atebol ar gyfer y rhaglen wrth i'r bwrdd newydd gael ei ffurfio.
Mae pob rôl ar y bwrdd yn wirfoddol, ac wedi'u cefnogi gan gyllid capasiti Llywodraeth y DU.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Balchder Bro neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, ewch i www.conwy.gov.uk/cy/ Pride-in-Place-programme neu anfonwch e-bost at Rhaglen.BalchderBroLlandudno@conwy.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 27/05/2026