Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Llai o sbwriel ar strydoedd Conwy

Llai o sbwriel ar strydoedd Conwy


Summary (optional)
start content

Llai o sbwriel ar strydoedd Conwy

Mae glendid strydoedd Conwy’n parhau i wella ac mae llai o sbwriel arnynt yn ôl Adroddiad Cymru gyfan blynyddol System Reoli ar gyfer Archwilio'r Amgylchedd Lleol 2023/24 a gyhoeddwyd gan Cadwch Gymru'n Daclus.

Mae ‘Dangosydd Glendid’ (DG) Conwy eleni’n 78.5 sydd yn uwch na’r 75.3 a gafwyd n 2022-23.

Mae cynnydd wedi bod mewn strydoedd a gafodd radd ‘A’ – i fyny o 10.3% i 15.8%, sef y ganran uchaf o strydoedd heb unrhyw sbwriel arnynt yng Nghonwy ers i’r arolwg gychwyn yn 2007-08.

Cafodd 97.4% o’n strydoedd eu graddio’n ‘B’ neu’n uwch, sydd eto’n uwch na’r llynedd.

Yn siomedig iawn cafodd 2.6% o’n strydoedd eu graddio’n ‘C’. Mae hyn yn is na’r llynedd ond yn golygu bod glendid 4 stryd yn dal o dan y lefel dderbyniol.

Yn gadarnhaol iawn, am y bedwaredd flwyddyn, ni chofnodwyd unrhyw strydoedd gradd ‘D’ yn y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth a’r Amgylchedd:  “Rydw i’n falch bod Conwy wedi gwneud yn dda yn yr arolwg hwn eto eleni – mae strydoedd glân yn bwysig i ni a’n trigolion, ein busnesau a’n hymwelwyr.

“O ystyried anferthedd y cyfyngiadau ariannol a’r ffaith fod rhaid i’r cyngor weithio o dan bwysau ychwanegol hoffwn ddiolch i’r tîm Mannau Agored am eu holl waith caled, ac i drigolion ac ymwelwyr am gael gwared â’u sbwriel yn gyfrifol. Rydym wedi cael y canlyniadau yma drwy gydweithio.

Er bod y canlyniadau’n dangos bod llai o sbwriel yn gyffredinol, gwastraff sy’n cael ei daflu neu ei adael gan unigolion sy’n achosi’r broblem fwyaf o hyd, ac mae hynny’n siomedig.   I’r bobl hynny sydd ddim yn parchu eu cymdogaethau,  rwy’n erfyn arnoch i chi roi eich sbwriel yn y bin neu fynd ag o adref gyda chi, fel pawb arall.”

Sbwriel sy'n gysylltiedig ag ysmygu yw’r sbwriel mwyaf cyffredin ar strydoedd Cymru o hyd. Dyma yw’r achos yng Nghonwy gyda sbwriel o’r fath i’w ganfod ar 45.4% o'n strydoedd. Eleni am y tro cyntaf mae’r sbwriel cysylltiedig ag ysmygu wedi cynnwys e-sigaréts tafladwy. Canfuwyd y rhain ar 2.6% o strydoedd Conwy.  

Wedi ei bostio ar 03/10/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content