Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Llandudno yn dechrau'r Daith at Statws Baner Borffor

Llandudno yn dechrau'r Daith at Statws Baner Borffor


Summary (optional)
start content

Llandudno yn dechrau'r Daith at Statws Baner Borffor

Llandudno at night

Llandudno gyda'r nos

Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau statws Baner Borffor ar gyfer Llandudno, diolch i gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, i wella’r economi ymwelwyr a’i diogelu at y dyfodol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi diogelu’r cyllid ac wedi llunio gweithgor amlasiantaeth newydd er mwyn datblygu’r hyn sydd gan y dref i’w gynnig gyda’r nos.

Mae cynrychiolwyr o faes twristiaeth, manwerthu, lletygarwch, hamdden, grwpiau cymunedol, Heddlu Gogledd Cymru a Mostyn Estates i gyd yn cyfranogi gan sicrhau bod amrywiaeth lawn profiad gyda’r nos yn y dref yn cael ei hystyried.

Mae Baneri Porffor, a ddyfernir gan y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd, yn cydnabod trefi a dinasoedd sy’n darparu amgylchedd gyda’r nos sy’n ddiogel, croesawgar ac amrywiol, rhwng 5pm a 5am.

Mae Gweithgor Baner Borffor Llandudno eisoes wedi nodi cryfderau presennol gan gynnwys cwmpas TCC, plismona gweithredol, ymgyrchoedd diogelwch sefydledig a sector lletygarwch amrywiol, a chyfleoedd i wella hygyrchedd, cludiant a gweithgarwch diwylliannol yn gynnar gyda’r nos.

Dywedodd y Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu:Dyma gam cyffrous i Landudno. Byddai statws Baner Borffor yn dangos bod y dref yn lle bywiog, diogel a chynhwysol i fwynhau gyda’r nos. Rydym yn falch o weld cynifer o bartneriaid yn cydweithio i greu economi gyda’r nos sydd o fudd i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.”

“Mae cais Llandudno yn dangos ymrwymiad hirdymor i gryfhau’r apêl gyda’r nos yn y dref a chefnogi ei thwf parhaus fel cyrchfan arfordirol arweiniol.”

Pe bai’n llwyddiannus, Llandudno fyddai’r dref Baner Borffor gyntaf yng ngogledd Cymru, a’r ardal arfaethedig fyddai’r cyntaf yn y DU i gynnwys pier.

Y cam nesaf yw cyflwyno’r cais yn y gwanwyn, a chynhelir asesiad yn yr haf.

 

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw gwella balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.   I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy

 

Wedi ei bostio ar 04/02/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content