Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Llandudno yn Gwneud Hanes fel Cyrchfan 'Purple Flag' Gyntaf Gogledd Cymru

Llandudno yn Gwneud Hanes fel Cyrchfan 'Purple Flag' Gyntaf Gogledd Cymru


Summary (optional)
start content

Llandudno yn Gwneud Hanes fel Cyrchfan 'Purple Flag' Gyntaf Gogledd Cymru

Llandudno at night

Llandudno

Llandudno yn Gwneud Hanes fel Cyrchfan 'Purple Flag' Gyntaf Gogledd Cymru a'r Unig Gyrchfan Achrededig yn y Byd sydd â Phier

Mae Llandudno yn dathlu ar ôl derbyn achrediad mawr ei barch, 'Purple Flag', sy'n cydnabod ymrwymiad y dref i ddarparu economi nos fywiog, ddiogel a chroesawgar.

Diolch i gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, llwyddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i sefydlu Gweithgor 'Purple Flag' aml-asiantaeth ac arwain cais llwyddiannus y dref am yr achrediad pwysig hwn.

Nod y rhaglen 'Purple Flag', sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol, yw codi safonau ac ehangu apêl ganol trefi a dinasoedd rhwng 5pm a 5am. Mae'r wobr yn cydnabod cyrchfannau sy'n llwyddo i gyfuno amrywiaeth o gyfleoedd adloniant, diwylliant, bwyta a hamdden, gan ganolbwyntio'n gryf ar ddiogelwch, glendid a phrofiad ymwelwyr.

Mae'r achrediad yn garreg filltir bwysig i Landudno, gan ei wneud y gyrchfan gyntaf yng Ngogledd Cymru – a'r drydedd yn unig yng Nghymru, ar ôl Caerdydd ac Abertawe – i ennill statws 'Purple Flag'. Mae'r dref hefyd wedi sicrhau lle unigryw yn hanes y cynllun fel y gyrchfan gyntaf yn y byd sydd wedi'i hachredu gan 'Purple Flag' i gynnwys pier o fewn ei ffin, gan adlewyrchu cymeriad unigryw'r dref arfordirol boblogaidd.

Roedd y cais llwyddiannus yn tynnu sylw at nifer o gryfderau’r dref, gan gynnwys cyfraniad sylweddol Venue Cymru fel lleoliad diwylliannol ac adloniant blaenllaw, sy’n denu ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn ac yn arddangos ansawdd y cyfleusterau sydd ar gael yng Ngogledd Cymru. Cydnabu’r aseswyr hefyd asedau naturiol rhagorol Llandudno a’r gwaith partneriaeth cryf a ddangoswyd drwy gydol y broses asesu.

Canmolwyd yn arbennig y dull cydweithredol a fabwysiadwyd gan sefydliadau lleol, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus wrth gefnogi’r economi gyda’r nos ac yn ystod y nos. Cydnabuwyd hefyd gyfraniad gwerthfawr y ‘Tidy Team’ o wirfoddolwyr, gyda’r aelodau’n gweithio ochr yn ochr â gwasanaeth ‘Streetscene’ Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i helpu i gadw’r dref yn lân, yn groesawgar ac yn ddeniadol i drigolion ac ymwelwyr.

Dywed y Cynghorydd Sharon, Aelod o’r Cabinet dros Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu: “Rydym wrth ein bodd bod Llandudno wedi ennill statws ‘Purple Flag’. Mae hwn yn gyflawniad gwych i’r dref ac yn gydnabyddiaeth o’r gwaith caled, yr ymroddiad a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan bartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i greu economi gyda’r nos ac yn ystod y nos sy’n ddiogel, yn groesawgar ac yn fywiog.

Ni fyddai’r wobr hon wedi bod yn bosibl heb ymdrechion ar y cyd gan nifer o sefydliadau ac unigolion. Yn benodol, hoffwn ddiolch i holl aelodau Gweithgor Purple Flag; roedd eu brwdfrydedd, eu cydweithrediad a’u gwaith caled dros y misoedd yn allweddol i sicrhau’r gydnabyddiaeth hon. Mae eu hymrwymiad, ynghyd â chefnogaeth busnesau lleol, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner, wedi helpu i arddangos yr hyn sydd orau yn Llandudno a chryfder ei chynnig gyda’r nos ac yn ystod y nos.”

Mae cyrchfannau sydd â statws Purple Flag yn cael eu cydnabod ledled y byd fel lleoedd sy’n cynnig profiad o ansawdd uchel gyda’r nos ac yn ystod y nos. Ar hyn o bryd, mae tua 100 o leoliadau achrededig ar draws y DU, Iwerddon, Sweden, Malta, Seland Newydd ac Awstralia, yn amrywio o ddinasoedd mawr a chyrchfannau twristiaeth enwog i drefi marchnad llai.

Ers dros 16 mlynedd, mae Purple Flag wedi cynrychioli’r safon aur o ran rheoli economïau gyda’r nos ac yn ystod y nos, ac mae’r cyflawniad diweddaraf hwn yn atgyfnerthu enw da Llandudno fel cyrchfan sy’n cynnig profiad diogel, croesawgar a phleserus i ymwelwyr yn ystod y dydd a’r nos.

Er bod yr achrediad hwn yn gyflawniad sylweddol, rydym yn cydnabod yn lleol bod gwaith i’w wneud o hyd a heriau i’w hwynebu. Mae Purple Flag yn darparu fframwaith cadarn i bartneriaid barhau i gydweithio, gan adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio'n dda wrth canolbwyntio ar y meysydd lle mae angen gwelliant pellach.

 

Roedd gwariant defnyddwyr yn economi nos y DU werth £136.5 biliwn yn 2022, gan gefnogi miloedd o fusnesau, cyflogi 2.08 miliwn o weithlu'r DU, a chyfrannu'n sylweddol at economïau lleol.

Ynglŷn â Purple Flag

Datblygwyd rhaglen Purple Flag yn dilyn adroddiad “Night Vision” y Civic Trust yn 2006 ac mae bellach yn cael ei rheoli gan yr Association of Town & City Management.

Mae Purple Flag yn:

  • Broses achredu sy'n debyg i Wobr y Faner Werdd (Green Flag Award) ar gyfer parciau a'r Faner Las (Blue Flag) ar gyfer traethau. Mae'n arwain at statws Purple Flag ar gyfer canol trefi sy'n cyrraedd neu'n rhagori ar safonau ardderchowgrwydd wrth reoli'r economi gyda'r nos ac yn ystod y nos.
  • Set gynhwysfawr o safonau, prosesau rheoli ac enghreifftiau o arfer da sydd wedi'u cynllunio i helpu i drawsnewid canolfannau trefi a dinasoedd gyda'r nos.
  • Rhaglen ymchwil, hyfforddiant a datblygu i helpu trefi a dinasoedd i wella eu heconomi gyda'r nos ac yn ystod y nos.
  • Menter gadarnhaol sy'n dynodi noson allan ddifyr, amrywiol, ddiogel a phleserus.

Mwy:

Purple Flag | ATCM

Purple Flag

 

Wedi ei bostio ar 23/09/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content