Cartref Newyddion Eitemau newyddion Blwyddyn Newydd y Lleuad 2025
start content

Blwyddyn Newydd y Lleuad 2025

Lunar New Year

Blwyddyn Newydd y Lleuad

Mae Blwyddyn Newydd y Lleuad - a elwir hefyd yn Flwyddyn Newydd Tsieina - yn nodi blwyddyn newydd yn seiliedig ar galendr y lleuad, neu gylchedau misol y lleuad.

Yn nhraddodiad y Tsieineiaid, cynrychiolir bob blwyddyn gan un o 12 anifail y Sidydd sef: Llygoden fawr, ychen, teigr, cwningen, draig, neidr, ceffyl, maharen (neu afr), mwnci, ceiliog, ci a mochyn. Yn 2025 mae Blwyddyn Newydd Tsieina  yn dechrau ar 29 Ionawr ac mae’n nodi newid o Flwyddyn y Ddraig i Flwyddyn y Neidr.

Blwyddyn Newydd Tsieina ynteu Blwyddyn Newydd y Lleuad?

Mae pob man sy’n dathlu Blwyddyn Newydd y Lleuad yn rhoi eu henw eu hunain arni, ac mae traddodiadau amrywiol o amgylch y dathliad. Mae cyffredinoli a’i alw’n ‘Flwyddyn Newydd Tsieina’ yn unig yn edrych heibio i amrywiaeth y gwahanol draddodiadau sy’n digwydd yn ystod y cyfnod.

Wedi ei bostio ar 29/01/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content